Mater - penderfyniadau

To present the annual self-evaluation report of Education Services in Flintshire

12/04/2024 - To present the annual self-evaluation report of Education Services in Flintshire

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod y Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn cynnal hunanwerthusiad blynyddol trwyadl o'i berfformiad a'i wasanaethau i roi sicrwydd i'r Cyngor ar ansawdd gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint.

 

Nododd yr adroddiad gryfderau a meysydd i’w gwella ymhellach ac adlewyrchwyd y meysydd hynny i’w gwella wedyn yng Nghynllun Gwella’r Cyngor a Chynllun Busnes y Portffolio ei hun.

 

Yn dilyn ailgyflwyno’r holl weithgarwch arolygu gan Estyn o fis Ebrill 2022 ymlaen, roedd adroddiad gwerthuso’r Portffolio eleni yn adrodd yn erbyn fframwaith Estyn ar gyfer Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol. Roedd yr adroddiad wedi'i strwythuro i roi sicrwydd i'r Cyngor ar draws y tri maes arolygu, sef:

  • Canlyniadau
  • Ansawdd y Gwasanaethau Addysg (yn cynnwys Gwasanaethau Ieuenctid)
  • Arweinyddiaeth a Rheoli

 

Cafodd yr holl feysydd arolygu eu gwerthuso’n fanwl ar gyfer y cyfnod 2022-2023 ac roedd pob un yn dod i ben gyda chasgliad o feysydd pellach a nodwyd ar gyfer gwelliant i sicrhau darpariaeth barhaus o wasanaethau addysg o safon i drigolion Sir y Fflint. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys crynodeb o gynnydd yn erbyn y pedwar argymhelliad o arolwg Estyn o Wasanaethau Addysg Sir y Fflint yn 2019.

 

Casgliad cyffredinol yr adroddiad hunanwerthuso oedd bod gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gadarn, yn cefnogi plant a phobl ifanc yn effeithiol ac yn cynnig gwerth da am arian.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yr wythnos flaenorol lle cafodd ei groesawu a’i gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn canlyniad adroddiad hunanwerthuso blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd gwasanaethau addysg ar gyfer cyfnod 2022-23;

 

(b)       Cyflwyno unrhyw sylwadau i'r Tîm Portffolio.