Mater - penderfyniadau

Adroddiad Blynyddol Monitro'r Gymraeg 2022/23

21/02/2024 - Welsh Language Annual Monitoring Report 2022/23

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi safonau ar gyfer y Gymraeg.  Dyma amcanion y safonau:

 

·         Gwella’r gwasanaethau y gallai siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan sefydliadau yn y Gymraeg;

·         Cynyddu’r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg;

·         Ei gwneud yn glir i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud o ran yr iaith Gymraeg; a

·         Sicrhau bod lefel briodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2022/23 ac roedd yn darparu trosolwg o gynnydd y Cyngor wrth gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach.

 

Ychwanegodd y Swyddog Datblygu Polisi – Cydraddoldeb fod gofyn i’r Cyngor gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, fel a nodir mewn Hysbysiad Cydymffurfio a roddwyd ar y Cyngor yn 2015.  Roedd yr Hysbysiad yn rhoi dyletswydd statudol ar y Cyngor i gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n nodi sut y mae wedi bodloni Safonau'r Gymraeg.

 

Roedd manylion y cwynion a ddaeth i law wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Er bod meysydd cynnydd cadarnhaol, roedd rhai materion yn parhau fel meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant. Gan ystyried yr heriau o ran recriwtio i swyddi gwag, a llenwi swyddi lle’r oedd y Gymraeg yn hanfodol, roedd meysydd gwelliant allweddol yn cynnwys:

 

  • Datblygu sgiliau Cymraeg ein gweithwyr, yn arbennig y rhai mewn swyddi sy’n wynebu’r cyhoedd, er mwyn cefnogi gwasanaethau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog
  • Cefnogi gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, yn naturiol, yn y gweithle, i gynyddu cyfleoedd i glywed a defnyddio’r Gymraeg

 

Amlinellwyd camau nesaf, sef y bydd y Cyngor yn ceisio:

 

  • Cynyddu nifer y gweithwyr sy’n siarad Cymraeg (roedd hwn yn gam gweithredu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28)
  • Cyflwyno mentrau i annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
  • Parhau i lenwi hunanasesiadau yn erbyn Safonau’r Gymraeg i sicrhau bod gwasanaethau’n cydymffurfio â nhw

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Weithredwr am ei arweinyddiaeth wrth hyrwyddo’r Gymraeg.  Dywedodd fod cyrsiau ar gael i Aelodau yn ogystal ag i staff a oedd yn dymuno dysgu Cymraeg. 

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno â’r farn fod defnyddio ymadroddion Cymraeg yn rheolaidd yn y gweithle yn helpu i feithrin hyder wrth ddefnyddio’r iaith. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet wedi cael sicrwydd o ran cydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau’r Gymraeg a’i fod yn cefnogi’r meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach.