Mater - penderfyniadau
Pay Policy Statement for 2023/24
17/05/2023 - Pay Policy Statement for 2023/24
Gofynnwyd i'r aelodau gymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2023/24 er mwyn ei gyhoeddi cyn y terfyn amser statudol. Hwn oedd yr unfed datganiad blynyddol ar ddeg i’r Cyngor ei gyhoeddi ac yr oedd yn adlewyrchu’r trefniadau presennol o ran tâl, ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf yn ogystal ag adran newydd yn cadarnhau sefyllfa’r Cyngor ynghylch taliadau i unigolion sy’n gadael.
Cyn ei gyhoeddi, byddai'r gwall teipograffyddol ar adran 6(iv) o'r Datganiad Polisi yn ymwneud â chyflog sylfaenol Pwynt 3 y Prif Swyddog yn cael ei gywiro.
Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Billy Mullin.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl drafft sydd wedi’i atodi ar gyfer 2023/24; a
(b) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddatganiad Polisi Tâl 2023/24 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi'r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol, fel ei fod yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol.