Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

15/05/2023 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol presennol i’w hystyried, a adolygwyd i gynnwys holl elfennau o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r eitemau o dan ‘Trosedd ac Anhrefn’ a ‘Gweithio’n Strategol ac mewn Partneriaeth’ gael eu trefnu gyda’i gilydd ble bo’n bosibl.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alisdair Ibboston pam bod yr adroddiad ar rymoedd dewisol ar gyfer gostyngiad yn Nhreth y Cyngor wedi’i ohirio eto, gan ei fod wedi gofyn am hyn beth amser yn ôl. 

 

Fel y swyddog cyfrifol, roedd y Rheolwr Refeniw a Chaffael yn egluro’r amrywiol alw am y gwaith yn ei wasanaeth a dywedodd y byddai adroddiad manwl ar y pwnc yn cael ei rannu ym mis Gorffennaf. 

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cydnabod ble’r oedd Aelodau wedi cyflwyno eitemau a awgrymwyd, dylent gael eu hysbysu am symudiadau. 

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Bill Crease ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.