Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
10/08/2023 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Nododd y byddai eitem ychwanegol, y Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 11 Gorffennaf 2023.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a oedd wedi ei atodi i’r adroddiad, a dywedodd fod y camau a oedd yn weddill wedi eu cwblhau. Tynnodd sylw at y gweithdai a gynhelir ar 18 Hydref 2023 ar yr Adolygiad o Strategaeth Gludiant Integredig Cyngor Sir y Fflint.
Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cynnwys ar y Rhaglen.
Awgrymodd y Cynghorydd Chris Dolphin y dylid ychwanegu eitem ar gyfer darparu data ar nifer y cerbydau casglu gwastraff sy’n torri lawr at y Rhaglen. Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) bod rhai problemau gweithredol wedi bod a dywedodd y byddai’r Rheolwr Gwasanaeth yn cysylltu â’r Cynghorydd Dolphin i drefnu cyfarfod i drafod y problemau a godwyd. Cytunwyd i gyflwyno adroddiad ar gasgliadau a fethwyd ar ddibynadwyaeth fflyd yn y cyfarfod ym mis Hydref.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn amodol ar y newidiadau uchod;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.