Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking

20/03/2023 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. 

 

Dywedodd yr Hwylusydd nad oedd newidiadau arfaethedig i’r eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol. Wrth gyfeirio at y camau gweithredu yn codi o’r cyfarfod diwethaf, dywedodd yr Hwylusydd fod y swyddogion wedi cadarnhau y byddai’r camau gweithredu’n ymwneud â’r adroddiad Incwm Rhent Tai a Diwygio'r Gyfundrefn Les yn cael ei gynnwys fel gwybodaeth ychwanegol yn adroddiadau’r dyfodol. Byddai’r cam gweithredu’n ymwneud ag anfon llythyr at yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei gwblhau’n nes ymlaen yr wythnos hon.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Evans at y camau canlynol yn codi o’r cyfarfod diwethaf a gofynnodd am i’r wybodaeth hon gael ei dosbarthu cyn y diweddariad nesaf ar yr adroddiad Incwm Rhent Tai a Diwygio'r Gyfundrefn Les mewn chwe mis:-

 

  • Gwybodaeth am nifer yr achosion sy’n aros i fynd yn ôl i’r llys i gael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod; a
  • Gwybodaeth am faint o’r 454 o aelwydydd a gafodd ostyngiad yn eu taliad budd-dal tai oherwydd y Dreth Ystafelloedd Gwely ac a oedd mewn ôl-ddyledion i gael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod.

 

            Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dale Selvester.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.