Mater - penderfyniadau
Single Point of Access
28/03/2023 - Single Point of Access
Eglurodd yr Uwch Reolwr Oedolion bod y Tîm Un Pwynt Mynediad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion wedi’u lleoli ym Mhreswylfa, yr Wyddgrug a dyma ble roedd atgyfeiriadau yn cael eu hadrodd a’u hatgyfeirio i’r tîm priodol. Hefyd roeddynt yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth saith diwrnod yr wythnos. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth i Bobl H?n bod dros 2,000 o adroddiadau gan yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Ambiwlans yn flynyddol a oedd angen eu hymdrin, a chanmolodd y Swyddogion sydd wedi delio â hwy.
Hysbysodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu’r Aelodau mai’r rhif i gysylltu â’r Tîm SPOA oedd 03000 858 858. Eglurodd yr Uwch Reolwr Oedolion bod swyddogion yn cael hyfforddiant gorfodol cynhwysfawr, yn ogystal ag hyfforddiant ychwanegol yn ôl y gofyn, i’w galluogi i roi’r cyngor gorau ar ystod eang o amgylchiadau. Yn ogystal roedd swyddogion yn cael ôl-drafodaeth ar ôl achosion cymhleth.
Rhoddodd y Cynghorydd Cunningham sylw ar ba mor ffodus oeddynt i gael y gwasanaeth gwych, yn aml iawn roedd pobl yn cysylltu gyda’r Cynghorwyr am gymorth a chyngor. Dywedodd y Cynghorydd Maddison ei bod wedi defnyddio eu gwasanaeth ar wahanol achlysuron a phob amser wedi cael ymateb prydlon a phroffesiynol. Dyma hefyd oedd safbwynt y Cynghorydd Owen.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Claydon a’u heilio gan y Cynghorydd Buckley.
PENDERFYNWYD:
(a)
Bod yr Aelodau yn derbyn a
nodi’r adroddiad fel gwybodaeth berthnasol mewn perthynas
â’r Un Pwynt Mynediad ar gyfer Gwasanaethau
Cymdeithasol i Oedolion a;
(b) Bod yr Aelodau yn rhoi sylw dyledus i amrywiaeth o weithgaredd ar draws Un Pwynt Mynediad a nodi datblygiad a gwelliant parhaus yn y ddarpariaeth gwasanaeth.