Mater - penderfyniadau

Schedule of Remuneration for 2022/23

11/04/2023 - Schedule of Remuneration for 2022/23

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/23.  Dywedodd fod angen i’r Cyngor lunio Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig bob blwyddyn. Roedd yr Atodlen wedi’i hatodi i’r adroddiad ac ar ôl ei chymeradwyo byddai’n cael ei chyhoeddi a’i hanfon at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. 

 

Tynnodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd sylw at newid i’w wneud ar dudalen 73 yn yr adroddiad a dywedodd fod y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ers hynny wedi’i benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd a byddai’r gydnabyddiaeth ariannol briodol yn cael ei hychwanegu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhelliad yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Ian Roberts.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol gyflawn ar gyfer 2022/23 i gael ei chyhoeddi.