Mater - penderfyniadau
New Residential Care Facility in Flint - 'Croes Atti 2'
10/08/2023 - New Residential Care Facility in Flint – ‘Croes Atti 2’
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd, fel rhan o’i gynlluniau uchelgeisiol, a rhaglen Llywodraeth Cymru i ailgydbwyso gofal,
fod y Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu capasiti’r ddarpariaeth gofal preswyl fewnol
ar draws yr awdurdod. Yn dilyn llwyddiant adeilad newydd Marleyfield House
ym Mwcle, cam nesaf y gwaith hwn oedd ceisio cynyddu capasiti yn ardal y Fflint.
Ar hyn o bryd, roedd gan y Fflint ddarpariaeth Croes Atti, cartref gofal preswyl 31 lleoliad wedi’i leoli ar Prince of Wales Avenue.
Dros y 12 mis diwethaf, gwnaethpwyd gwaith i archwilio dewisiadau priodol ar gyfer cynyddu capasiti gofal preswyl yn y Fflint a’r cyffiniau, trwy nifer o werthusiadau dewisiadau a chynlluniau safle. O ganlyniad, bu i’r Cyngor ddefnyddio safle hen Ysbyty Cymunedol y Fflint ar Cornist Road yn gynnar yn 2022. Ers hynny, mae astudiaeth ddichonoldeb lawn wedi’i chwblhau, er mwyn archwilio dewisiadau o ran sut y gellid lleoli cartref 56 lleoliad newydd ar y safle.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) drosolwg o gynnydd y dyluniad hyd yma, yn ogystal â manylu ar y cerrig milltir allweddol wrth i ddyluniad terfynol manwl y cartref gofal gael ei lunio, gan gynnwys darparu model gweithredu ar gyfer y cartref.
PENDERFYNWYD:
(a) Cadarnhau cefnogaeth ar gyfer prosiect ‘Croes Atti 2’, fel blaenoriaeth strategol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol; a
(b) Nodi’r prif weithgareddau prosiect sydd ar y gweill, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r model gweithredol gyda’r Bwrdd Iechyd.