Mater - penderfyniadau

Town centre regeneration

20/02/2023 - Town centre regeneration

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth gefndir ac adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyd-destun strategol ar gyfer adfywio canol trefi a’r rhaglenni gwaith sydd yn weithredol ar hyn o bryd. Ar ben hynny, roedd yn darparu manylion am ddatblygiad Cynlluniau Lleoedd a’r camau gorfodi angenrheidiol i fynd i’r afael ag eiddo gwag yng nghanol trefi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers os byddai adfywio canol trefi yn cynnwys ystyried yr uwchgynlluniau presennol neu a fyddai’r Cynlluniau Lleoedd yn disodli’r uwchgynlluniau. Cyfeiriodd hefyd at adran 1.14 yn yr adroddiad a gofynnodd pryd fyddai’r Cabinet yn cymeradwyo’r meini prawf i’w ddefnyddio i flaenoriaethu eiddo ar gyfer ymyrryd. Gofynnodd y Cynghorydd Peers a fyddai’n bosib darparu manylion yngl?n â chyfranogiad Aelodau Lleol wrth greu Cynlluniau Lleoedd ac amserlenni. Soniodd y Cynghorydd Peers am y broblem o eiddo masnachol gwag yng nghanol trefi a dywedodd mai’r adborth a gafwyd oedd bod y ffioedd rhent yn rhy uchel, a gofynnodd a fyddai modd edrych ar hyn. Ymatebodd y Rheolwr Menter ac Adfywio i’r pwyntiau a wnaed.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at dudalen 179, adran 2.01 yn yr adroddiad, a gofynnodd a fyddai’r arian cyfatebol yn dod o berchnogaeth breifat o eiddo neu gan y Cyngor. Soniodd y Cynghorydd Bithell am y bwlch yn y gyllideb i’w drafod gan y Cyngor. Wrth ymateb, eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y byddai angen i’r sector cyhoeddus ddarparu’r balans.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r gofynion i ddatblygu Cynlluniau Lleoedd ar gyfer y 7 tref

(Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton)yn Sir y Fflint, a chefnogi’r drefn y bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei gwblhau o fewn cyfyngiadau’r adnoddau sydd ar gael; a

 

(b)       Nodi’r gofyniad i fynd i’r adael ag eiddo gwag yng nghanol trefi drwy

gamau gorfodi, a chefnogi’r meini prawf a’r dull a ddefnyddir.