Mater - penderfyniadau

Levelling Up Fund

14/04/2023 - Levelling Up Fund

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y rhaglen a phrosiectau ac i

argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cyllid cyfalaf i fodloni’r gofynion ariannu cyfatebol a ddisgwylir gan Lywodraeth y DU.

 

Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn cyflwyno’r diweddaraf am ddatblygiad a chyflwyniad dau gais yn unol â’r strategaeth ymgeisio a gytunwyd gan y Cabinet ar 18 Ionawr 2022 ac ar drydydd cais cludiant strategol. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen yn gyffredinol ac yn ceisio dyraniad o gyllid cyfatebol o’r rhaglen gyfalaf o £1,106,915 (£630,467 cais Alyn a Glannau Dyfrdwy, £476,448 cais Delyn) er mwyn tynnu cyllid Llywodraeth y DU i lawr.

 

Soniodd y Cynghorydd Mike Peers am y risg o ran argaeledd cyllid cyfatebol y cyfeirir ato ar dudalen 124 yr adroddiad.  Awgrymodd, gan nad oedd cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/24 wedi cael ei chyflwyno eto, y dylid cytuno ar argymhelliad 3 mewn egwyddor yn unig nes yr oedd manylion pellach am y gyllideb yn hysbys. Ymatebodd y Swyddogion i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Peers yngl?n â’r ceisiadau a gyflwynwyd ac fe wnaethant sylwadau ar yr ymrwymiad cadarn i gael yr arian sydd ei angen.   Ni eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Peers.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dan Rose a Mike Allport.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnydd o ran datblygu a chyflwyno ceisiadau i ail rownd Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn cael ei nodi;

 

(b)       Bod y risgiau a’r mesurau lliniaru yn gysylltiedig â’r pecyn o brosiectau yn cael eu nodi; a

 

(c)        Bod y dyraniad o gyllid cyfatebol o hyd at £1.107m o’r rhaglen gyfalaf yn 2024/2025 yn cael ei gefnogi.