Mater - penderfyniadau
Terms of Reference (S&HC OSC)
15/12/2022 - Terms of Reference
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymunedau ac Addysg adroddiad i ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd fod cylch gorchwyl presennol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad a bod y newidiadau arfaethedig i'r cylch gorchwyl i'w gweld yn Atodiad 2.
Dywedodd yr Hwylusydd fod y cylch gorchwyl yn cael ei gyflwyno i bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ystod mis Gorffennaf. Yn dilyn hyn byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd i roi adborth gan bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Byddai cylch gorchwyl y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedyn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu o fewn y Cyfansoddiad. Tynnodd yr Hwylusydd sylw at baragraff 1.04 yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Tina Claydon.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r diwygiadau arfaethedig i’w gylch gorchwyl fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.