Mater - penderfyniadau

Revenue budget monitoring 2022/23 (Interim)

26/05/2023 - Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Interim)

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem a oedd yn rhoi'r trosolwg cyntaf o sefyllfa monitro'r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23. Adroddwyd drwy eithriad ar amrywiadau arwyddocaol a allai effeithio ar sefyllfa ariannol 2022/23.

 

Yn seiliedig ar y lefel uchel o ragdybiaethau yn yr adroddiad, roedd yr amrywiadau posibl yn y gyllideb a ddynodwyd fesul Portffolio gyfwerth ag isafswm gofyniad gwariant net ychwanegol o tua £0.300 miliwn.

 

Byddai gallu’r Cyngor i liniaru risgiau ariannol yn y cam adfer wedi’r pandemig yn hanner cyntaf y flwyddyn, yn dilyn colli’r Grant caledi a cholli incwm gan Lywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar adolygu a herio gwariant gohiriedig, gan wneud y mwyaf o ffrydiau incwm yn dilyn dychwelyd i’r drefn arferol. 

 

Roedd swm o £2.066 miliwn yn dal ar gael o’r gronfa frys o £3 miliwn a glustnodwyd. Roedd cyllideb 2022/23 a gymeradwywyd ym mis Chwefror yn cynnwys £3.250 miliwn ychwanegol i’r gronfa wrth gefn i ddarparu amddiffyniad darbodus yn erbyn effeithiau parhaus y pandemig.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol y bydd adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi a fydd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa ariannol gyffredinol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i breswylwyr Sir y Fflint am y taliadau Treth y Cyngor gan ddweud os bydd unrhyw un ohonynt yn cael anhawster ariannol, yna dylent gysylltu â’r Cyngor a allai helpu neu eu cyfeirio at y lle priodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a'r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb 2022/23.