Mater - penderfyniadau
Period Dignity Update
17/01/2023 - Period Dignity Update
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu’r adroddiad, a oedd yn egluro sut y defnyddid cyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau y gallai’r holl ddisgyblion gael gafael ar y nwyddau angenrheidiol. Rhoes fraslun o Gynllun Gweithredu Strategol Pum Mlynedd Llywodraeth Cymru a gyhoeddid cyn hir.
Rhoddwyd braslun o’r grantiau a ddarperid i awdurdodau lleol ac ysgolion a gwybodaeth am sut y dosberthid y nwyddau. Roedd y cyllid wedi cynyddu ac roedd gofyn bellach bod 50% o’r nwyddau’n rhai ecogyfeillgar, a darparwyd gwybodaeth hefyd am y contract a’r nwyddau a gyflenwyd.
Rhoes yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu wybodaeth am y contract “Hey Girls” a gomisiynwyd i ddarparu nwyddau’r oedd disgyblion yn eu dethol ac a gâi eu hanfon i’w cartrefi. Gosodwyd mwy na 2,000 o archebion ac roedd yr adroddiad yn cynnwys braslun o’r nwyddau dan sylw a’r grwpiau blwyddyn a dderbyniai gefnogaeth. Eglurodd fod nwyddau ecogyfeillgar ar gael a bod Llywodraeth Cymru’n mynnu fod 90% o’r holl nwyddau’n rhai ecogyfeillgar. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o hyblygrwydd eleni fel y gellid defnyddio’r cyllid i hyfforddi athrawon mewn ysgolion yngl?n â’r glasoed ac oedrannau addas. Byddai’r Cod ar gyfer perthnasoedd a rhywedd yn dod i rym ym mis Medi mewn ysgolion a threfnwyd nifer o weithdai i sicrhau fod yr athrawon yn barod. Rhoddwyd braslun o’r cyllid ar gyfer eleni gan gynnwys y cynlluniau i ymestyn y gwaith gyda “Hey Girls”. Roedd gwell darpariaeth hefyd ar gyfer clybiau ieuenctid, banciau bwyd, ffoaduriaid a chanolfannau cymunedol, ac roedd modd i blant a phobl ifanc 8 - 18 oed archebu ar-lein.
Rhoes y Cynghorydd Paul Cunningham ganmoliaeth i’r adroddiad a dywedodd y dylid rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i hyn er mwyn cefnogi disgyblion hynny na fedrent fforddio prynu’r nwyddau.
Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry ei fod yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a bod mwy o drafodaeth agored am y mislif mewn ysgolion wrth addysgu pynciau mewn grwpiau cymysg eu rhyw. Roedd hi’n falch bod staff yn cael hyfforddiant i ddarparu hyn a dywedodd ei bod yn fendigedig bod y nwyddau ar gael yn yr ysgolion.
Rhoes y Cynghorydd Carolyn Preece ganmoliaeth i’r adroddiad ac roedd hi’n croesawu defnyddio nwyddau ecogyfeillgar.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Teresa Carberry y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cydbwyllgor yn fodlon y gwariwyd y grant yn briodol a’i fod wedi helpu i fodloni anghenion y rhai hynny yr anelwyd cynllun Llywodraeth Cymru atynt.