Mater - penderfyniadau

Care Inspectorate Wales (CIW) - Assurance Check

30/08/2022 - Care Inspectorate Wales (CIW) - Assurance Check

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i rannu casgliadau gwiriad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21.  Cafodd yr adroddiad ei ystyried gan  Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a’r Cabinet yn unol â’r protocol adrodd rheoleiddio.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar sgôp eang yr archwiliad oedd wedi canfod cryfder mewn nifer o feysydd yn cynnwys effeithiolrwydd y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol oedd yn ymwneud â diogelwch a lles gofalwyr a’r rhai oedd yn derbyn gofal yn ystod y pandemig, yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer plant mewn gofal. Mae’r casgliadau hefyd yn adlewyrchu ansawdd staff a gwaith partneriaeth ynghyd â thystiolaeth o ‘arfer da iawn’ ar draws pob maes o Wasanaethau Cymdeithasol. Er bod y penawdau ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn gadarnhaol, rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad manwl am gynnydd gydag amrywiaeth o weithredoedd i fynd i’r afael â thri maes o welliant, yn cynnwys heriau recriwtio yn y Gwasanaethau Oedolion. Roedd y problemau hyn yn cael eu hail-adrodd ar draws y DU.

 

Fe eglurodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu bod strwythur Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor wedi galluogi mwy o fonitro annibynnol o’r gwasanaeth.  Fe soniodd hi hefyd am y gefnogaeth wleidyddol gref ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn Sir y Fflint y sonnir amdano yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai cynnydd gyda’r cynllun gweithredu yn destun protocol adrodd.   Dywedodd fod perfformiad Sir y Fflint yn cymharu’n dda yn gyffredinol yn erbyn awdurdodau eraill a bod y gwasanaeth wedi ymrwymo i nodi cyfleoedd ar gyfer  gwelliant ac adeiladu ar ei gryfderau.

 

Cafodd casgliadau’r archwiliad eu croesawu gan y Cynghorydd Christine Jones, yn benodol yr adborth cadarnhaol am waith partneriaeth a dosbarthu cyfarpar diogelu personol (PPE) yn ystod y pandemig.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog i gwestiynau gan y Parchedig Brian Harvey am gynnal ymgysylltu da gyda’r Bwrdd Iechyd a sefydliadau trydydd sector trwy gydol y pandemig a datblygu darpariaeth gofal preswyl yn Sir y Fflint.

 

Wrth ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, fe eglurwyd y byddai gweithredoedd yn cael eu monitro’n agos yn cynnwys mynd i’r afael â phwysau recriwtio a oedd yn parhau i fod yn faes o bryder.  Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd am y dull adrodd perfformiad o fewn y Cyngor, dywedodd y Prif Swyddog bod dangosyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar gael ar gais.

 

Yn ystod yr eitem, fe ganmolodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor  gasgliadau’r adroddiad a chynnydd gyda’r cynllun gweithredu. Gofynnodd y Cynghorydd Banks bod diolchgarwch y Pwyllgor yn cael ei gyfleu i’r timau am eu hymdrechion yn ystod y pandemig.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael ei nodi, yn dilyn Gwiriad Sicrwydd ym mis Ebrill 2021; a

 

(b)       Bod diolchgarwch y Pwyllgor yn cael ei ymestyn i dimau Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith yn ymwneud  â’r archwiliad ac yn ystod y pandemig.