Mater - penderfyniadau

Grant Funding Application to Promote Repair and Reuse Initiatives

18/08/2022 - Grant Funding Application to Promote Repair and Reuse Initiatives

Wrth gyflwyno’r adroddiad amlinellodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y cynnig ar gyfer y cais ariannol ar y cyd ar gyfer prosiect ailddefnyddio gyda Refurbs Sir y Fflint, sydd wedi’i gyflwyno i’r Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Gan nad yw’r cyllid hwn ar gael i’r Cyngor darparwyd cymorth i helpu Refurbs Sir y Fflint i gyflwyno cais. Roedd hyn yn dod o dan Lleihau Gwastraff a Dargyfeirio Gwastraff o Safleoedd Tirlenwi.

 

            Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod hyn wedi derbyn sylw yn 2019 ac, yn dilyn trafodaethau gyda thrigolion a sylwadau mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, ei fod yn cael ei adolygu. Roedd yna lawer o eitemau y gellir eu hailddefnyddio a’u hailgylchu yn cael eu gwaredu. Cysylltwyd ag elusennau i ddod i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i siarad gyda phreswylwyr er mwyn atal eitemau o ansawdd rhag cael eu taflu. Roedd llawer o elusennau yn awyddus i gymryd rhan ond yna fe darodd y pandemig a rhoddwyd stop ar y gwaith. Mae trafodaethau yn cael eu cynnal unwaith eto gyda’r elusennau i fwrw ymlaen â hyn ac mae cynigion ar gyfer y cynllun peilot, gyda Refurbs yn y lle cyntaf, yn cael eu datblygu. Cyfeiriodd at 1.05 yn yr adroddiad sy’n manylu ar y cynigion a’r trefniadau ar gyfer y cynhwysydd storio. Byddai’r eitemau hyn yn cael eu casglu o bob safle a’u danfon i ganolfan sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor. Byddai’r eitemau wedyn yn cael eu didoli i gategorïau fel teganau a bric-a-brac ac ati i elusennau eu gwerthu. Byddai llyfrgell hefyd yn cael ei chreu yn y ganolfan ar gyfer deunyddiau wedi’u recordio a llyfrau. Unwaith y mae popeth yn ei le, rhagwelir y byddai eitemau yn cael eu danfon yn uniongyrchol i’r ganolfan yn hytrach na’r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Mae yna hefyd gynigion ar gyfer casgliadau wrth ymyl y ffordd, ar gyfer tecstilau yn y lle cyntaf. Os llwyddir i gael y cyllid byddai ymgyrch hysbysebu yn cael ei chynnal gyda gwirfoddolwyr Refurbs ac elusennau eraill sy’n gweithio yn y canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd a hyrwyddo’r cynllun. Darparodd drosolwg o’r eitemau y byddai’r cynllun peilot yn edrych arnynt.

 

            Gan gyfeirio at y cyllid grant cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod yna gystadleuaeth frwd ac mai dim ond un ymgeisydd llwyddiannus sydd yna bob blwyddyn. Mae’r cynnig yn un beiddgar ac uchelgeisiol iawn, er mwyn gwneud yn si?r ei fod yn sefyll allan. Os yw’n aflwyddiannus, bydd y gwaith i ganfod cyllid ychwanegol yn parhau. Os yn llwyddiannus, byddai’r prosiect yn cael ei gynnal o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2023, yn dibynnu ar y cyllid. Mae isadeiledd, adeiladau a cherbydau wedi derbyn sylw ond y prif ffocws yw hyrwyddo hyn a chodi ymwybyddiaeth. Mae yna fuddion i’r elusennau a byddai’r cyhoedd yn llai tebygol o daflu eitemau defnyddiol. Dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y byddai pobl yn llai tebygol o waredu’r eitemau hyn mewn canolfannau ailgylchu gwastraff ar ôl iddynt ddysgu am y gwasanaeth, ac felly yn achub eitemau da rhag cael eu cludo i safleoedd tirlenwi. Mae’n rhaid hefyd ystyried trwyddedau amgylcheddol ac mae trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

 

            Dywedodd y Cadeirydd fod hyn yn syniad gwych a gofynnodd a fyddai eitemau trydanol bach yn cael eu cynnwys ac a fyddai’r gwasanaeth casglu tecstilau yn wasanaeth rhad ac am ddim. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio na fyddai eitemau trydanol bach yn cael eu derbyn yn y lle cyntaf ond, petai galw, yna byddai modd edrych ar hynny yn y dyfodol. Byddai’r gwasanaeth casglu tecstilau yn un rhad ac am ddim dan y cyllid grant. Bydd ein dealltwriaeth yn gwella ar ôl y cynllun peilot ac os yw’n llwyddiannus byddai’n rhaid i’r gwasanaeth fod am ddim.

 

            Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd fod hon yn fenter wych, a bod Refurbs yn bartner da. Dymunodd yn dda i’r tîm gyda’r cynigion a diolchodd i’r staff yn y canolfannau ailgylchu gwastraff am eu brwdfrydedd a’u gwaith caled.

 

            Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd fod hyn wedi’i wneud o’r blaen cyn dechrau gweithio gyda Refurbs. Oherwydd y pandemig teimlodd fod llawer o eitemau wedi’u gwaredu yn barod a dywedodd fod rhai elusennau yn fisi iawn gyda’r hyn maent yn eu derbyn.

 

            Dywedodd y Cadeirydd fod yna gwmpas mawr i hyn, yn enwedig o ran ymgysylltu â phobl wedi ymddeol i drosglwyddo eu sgiliau i’r genhedlaeth iau.

 

            Cytunodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) gyda sylwadau’r Cynghorydd Butler ac nad yw hyn yn rhywbeth newydd ond mae cyllid grant wedi’i ddyfarnu yn y gorffennol i brosiectau tebyg. Gobeithio y bydd y cais am gyllid yn llwyddiannus, ond mae Cymru gyfan yn cystadlu amdano.

            Soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio am y ganolfan a’r caffi trwsio ac ailddefnyddio ar hen safle’r ganolfan ailgylchu ym Mwcle. Cafwyd cyllid Economi Cylchol ar gyfer hyn, ac mae’r caffi yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gweithdai a dosbarthiadau ar uwchsgilio a rhoi defnydd newydd i eitemau. Cyfeiriodd at sgiliau’r gwirfoddolwyr a soniodd am ymgyrch hysbysebu sy’n cael ei lansio i weld a oes gan unigolion eraill sydd wedi ymddeol ddiddordeb ymuno â’r tîm i addysgu pobl ifanc sut i achub ac ailddefnyddio eitemau. Byddai hwn yn ganolbwynt i’r gymuned.

 

            Awgrymodd y Cadeirydd y dylid anfon gwybodaeth at bob Aelod er mwyn iddynt rannu’r wybodaeth yn eu wardiau. Cytunwyd ar hyn.

 

            Dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) mai’r gobaith yw cael canolfannau tebyg ymhob tref ac mewn cymunedau mawr. Byddai hyn hefyd yn cyfrannu at darged ailgylchu’r Cyngor.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson fod hyn yn wych a bod trafodaethau yn cael eu cynnal ar gael canolfan arddio ym Mwcle ac y byddai un ymhob cymuned fawr yn beth da.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr George Hardcastle a Joe Johnson.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cefnogi cyflwyno cais am gyllid grant i hyrwyddo mentrau trwsio ac ailddefnyddio.