Mater - penderfyniadau

Annual Governance Statement 2020/21 Mid-Year Progress Report

16/03/2022 - Annual Governance Statement 2020/21 Mid-Year Progress Report

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar y meysydd i’w gwella a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2020/21, a oedd yn dangos cynnydd cadarnhaol o ran mynd i’r afael â’r materion a nodwyd.

 

Eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, er bod materion llywodraethu wedi’u nodi yn ystod y broses, bod materion strategol o’r gofrestr risg yn berthnasol dros y tymor hwy.   Dywedodd bod yr unig risg ‘coch’ sy’n weddill oherwydd oedi wrth geisio cymeradwyaeth reoleiddiol (cynllunio; draenio; trwydded amgylcheddol) er mwyn datblygu prosiectau isadeiledd allweddol yn cael ei fonitro’n ofalus.

 

Diolchodd Sally Ellis i’r swyddogion am yr adroddiad a oedd yn darparu sicrwydd i’r Pwyllgor.   Ynghylch datblygu cynllun gweithredu ar gyfer gwella’r broses o ymgysylltu ac ymgynghori, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad ar waith y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol ochr yn ochr â pharatoadau ar gyfer hunanasesiad corfforaethol a adlewyrchir yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Soniodd Allan Rainford bod posibilrwydd i rai materion barhau mewn i 2022/23, yn benodol y rhai a effeithir gan bwysau economaidd.   Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yntau’n rhannu’r pryderon hyn, ac eglurodd bod adnoddau ychwanegol wedi’u dyrannu i nifer o feysydd gwasanaeth megis casglu rhent, lle mae ymyrryd â chwsmeriaid yn gynnar wedi helpu i osgoi uwchgyfeirio.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Allan Rainford a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn   adroddiad diweddariad ar gynnydd canol blwyddyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.