Mater - penderfyniadau

Multiplying Impact - Flintshire Integrated Youth Provision Delivery Plan 2021-2024

05/08/2022 - Multiplying Impact - Flintshire Integrated Youth Provision Delivery Plan 2021-2024

Cyn ystyried yr adroddiad, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod Mrs. Ann Roberts, Uwch Swyddog y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig, yn ymddeol o’i swydd ar ddechrau mis Mawrth. Cyfeiriodd at gyfraniad aruthrol Ann Roberts i’r Pwyllgor a’i hangerdd ac ymroddiad dros ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl ifanc. Byddai cyfle i Aelodau gyflwyno eu sylwadau a fyddai’n cael eu casglu ynghyd a’u cyflwyno i Ann Roberts yn ystod ei chyflwyniad gadael.  Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor anfon llythyr o werthfawrogiad at Ann Roberts yn diolch iddi am yr hyn roedd wedi’i gyflawni ar ran y gwasanaeth addysg dros y blynyddoedd ac yn dymuno’n dda iddi yn y dyfodol. Cefnogwyd yr awgrym hwn gan y Pwyllgor. 

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Mick Holt (Uwch Weithiwr Ieuenctid a Chymuned) ac Ali Thomas (Gweithiwr Fforwm Ieuenctid), y ddau Uwch Weithiwr Ieuenctid, i’r Pwyllgor a diolchodd iddynt am eu cymorth. Amlinellodd y sefyllfa bresennol, ac esboniodd fod y Cynllun wedi cael ei ddatblygu ar ôl ymgynghori’n eang gyda phobl ifanc yn Sir y Fflint a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, y Tîm Ieuenctid ac amryw o bartneriaid a oedd yn darparu’r gwasanaethau hyn i bobl ifanc yn y gr?p oedran 11-25.  Esboniwyd dyheadau’r bobl ifanc ynghyd â’r cymorth a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid. Roedd y ddarpariaeth ddigidol yn fuddiol ond wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio roedd modd darparu mwy o wasanaethau wyneb yn wyneb. Roedd Comisiynydd Plant Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cydnabod gwerth Gwasanaethau Ieuenctid ac mae hyn bellach ar flaen trefn arolygu newydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Addysg.  Roedd y Gwasanaeth Ieuenctid a Gweithwyr Ieuenctid yn rhan medrus a gwerthfawr iawn o’r Gwasanaethau Addysg. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y dibenion allweddol yn adran 1.06 o’r adroddiad a oedd yn cysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol ac yn darparu gwybodaeth am y prif enghreifftiau o waith partneriaeth.  Roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau roeddynt yn eu derbyn drwy’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig a’r ffaith y byddai’r cynllun hwn yn cynnig llwybr ar gyfer y tair blynedd nesaf o ran y ffordd roedd gwasanaethau yn cael eu gwreiddio a’u hehangu i’w cefnogi. Cyfeiriodd at Strategaeth y Gymraeg mewn Addysg a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf a dywedodd fod y pwyslais ar ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn gwella cyfleoedd pobl ifanc yn y dyfodol.  

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y Pecyn Adnoddau, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr Asesiad Effaith Integredig wedi’i gwblhau fel rhan o’r broses statudol ar gyfer adrodd i’r Pwyllgor. Roedd hwn yn dempled safonol yr oedd yn rhaid ei ddefnyddio a chytunwyd bod rhai elfennau yn ailadroddus. Cadarnhaodd y Gweithiwr Fforwm Ieuenctid fod y dull adrodd cynyddu effaith yn cael ei ddefnyddio gydag elfennau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a chadarnhaodd fod rhai o’r gwasanaethau hyn yn rhai wyneb yn wyneb, ac eraill yn cael eu darparu ar-lein. Er ei fod yn ymddangos bod hyn yn ailadroddus, roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu gwasanaeth cyfunol gwahanol.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at adran 1.07 yn yr adroddiad a oedd yn nodi bod bron i 24,000 o bobl ifanc yn y categori hwn rhwng 11 a 25 oed. Gofynnodd sut gellid cysylltu â’r unigolion hyn, a allai fod ar draws y Sir, i ddeall beth oedd eu hanghenion. Mewn ymateb, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) at y Rhaglen Haf o Hwyl a oedd yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc “h?n”. Byddai ysgolion a gweithwyr ieuenctid yn cyfeirio pobl at hyn, ond y ffordd roedd y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn yn cael eu hyrwyddo (drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac ati) fyddai’n galluogi’r gr?p hwn i ymgysylltu.

 

            Cadarnhaodd yr Uwch Weithiwr Ieuenctid a Chymuned ei fod wedi bod yn gweithredu fel rheolwr atebol y Swyddogion NEETS dros y 6 blynedd diwethaf.  Bob mis Medi roedd y tîm yn treulio chwe wythnos yn mynd drwy rhestri o bobl ifanc dros 18 oed ac yn ‘cnocio drysau’ i weld ble roedd yr unigolion hyn, er mwyn siarad gyda nhw i esbonio pa wasanaethau oedd yn cael eu darparu. Roedd y mwyafrif helaeth yn dweud eu bod yn y coleg, roedd gan rai swyddi, doedd eraill ddim adref neu roeddynt wedi symud. Teimlwyd hefyd mai dyma’r ffordd orau o gyrraedd y bobl ifanc hyn. Cafodd hyn ei hysbysebu hefyd drwy Gynllun Gwobr Dug Caeredin a thrwy’r Colegau. Cyfeiriodd hefyd at y cydweithio gyda gweithwyr y teuluoedd yn y tîm Gwasanaethau Cymdeithasol a soniodd am y prosiectau a gynhaliwyd yn ystod yr haf gyda theuluoedd gyda phlant o dan 5 oed. 

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylai’r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn yr adroddiad a llongyfarchodd y tîm am y gwaith a oedd yn cael ei gyflawni. Esboniodd yr Uwch Weithiwr Ieuenctid a Chymuned nad oedd yr wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn yr adroddiad, a’i fod yn waith a oedd yn cael ei wneud gan y tîm NEETS ond a allai gael ei gynnwys fel enghraifft o’r hyn oedd wedi’i gyflawni. 

 

            Esboniodd y Gweithiwr Fforwm Ieuenctid, yn ogystal â’r ddarpariaeth yn ystod y tymor fel clybiau ieuenctid ac ati, a’r gwaith a oedd yn cael ei wneud gan y tîm NEETS, fod y grwpiau h?n yn cael eu targedu mewn ardaloedd fel Parc Gwepra er enghraifft.  Tynnodd sylw at raglenni’r haf a’r hanner tymor ac esboniodd sut roedd y timau allanol wedi ymestyn allan at y bobl ifanc nad oeddynt yn ymgysylltu â’r gwasanaethau mwy ffurfiol.  Yna cyfeiriodd y Gweithiwr Fforwm Ieuenctid at y Cyngor Ieuenctid a’r ymdrechion a oedd yn cael eu gwneud i sicrhau ei fod mor amrywiol â phosibl ac yn cynnwys cynrychiolwyr pobl ifanc o’r colegau, byd gwaith a lleoliadau eraill, ynghyd â phrosiectau digartrefedd. Roedd llawer o brosiectau yn targedu pobl ifanc i sicrhau bod cynrychiolaeth yn uchel ac roedd llawer o bobl ifanc yn ymgysylltu’n dda.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) mai adroddiad drafft oedd hwn ac roedd yn cynnwys adborth ar yr ymgynghoriad a chyfeiriad strategol i’r dyfodol. Byddai’n bosibl gwneud newidiadau cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Cabinet.

 

Cyfeiriodd Mrs Lynne Bartlett at y rhestr o glybiau ieuenctid a oedd yn ailagor ond roedd wedi sylwi bod un neu ddau ar goll. Gofynnodd a gafodd asesiadau o’r cymunedau hynny eu cynnal, yn enwedig mewn un gymuned lle’r oedd lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yna a chawsant eu hamlygu a’u blaenoriaethu? Wrth gyfeirio at y gwasanaeth ‘untro’, gofynnodd a oedd hwn yn targedu’r ardaloedd hynny lle’r oedd llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac a oedd cyfleoedd i ymgysylltu â’r sector gwirfoddol i sicrhau bod y cymunedau hynny yn gallu agor clybiau ieuenctid. Roedd Mrs Bartlett yn falch o weld twf Ysgolion y Goedwig.

 

            Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn yr adnoddau dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd yn rhaid i’r Gwasanaethau Ieuenctid weithredu mewn ffordd fwy ‘clyfar’ wrth reoli’r gwaith hwn. Roedd wedi bod yn bosibl cynnal y ddarpariaeth bresennol mewn rhai cymunedau, ond yn anffodus nid oedd hynny wedi bod yn bosibl ym mhob achos am wahanol resymau. Yn dilyn trafodaethau gyda phobl ifanc, darparwyd gwasanaethau eraill fel gwasanaethau digidol ac ar-lein gyda gwasanaethau ‘untro’ ac allgymorth yn rhan o’r pecyn amlochrog a oedd yn cael ei ymestyn yn barhaus o fewn cyllideb gyfyngedig. Roedd y Gwasanaethau Ieuenctid a Chyfiawnder Ieuenctid yn ymgysylltu’n barhaus â phobl ifanc lle’r oedd elfennau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

            Dywedodd yr Uwch Weithiwr Ieuenctid a Chymuned fod rhai adeiladau a ddefnyddiwyd ar gyfer clybiau ieuenctid wedi cael eu trosglwyddo o dan y rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol ond roedd clybiau ieuenctid wedi cael eu cadw lle bo’n bosibl. Amlinellodd yr amserlen hyfforddiant ar gyfer gweithwyr ieuenctid mewn gofal a gweithwyr ieuenctid cynorthwyol a’r cymwysterau roedd eu hangen, a dywedodd mai recriwtio aelodau staff rhan amser oedd y broblem fwyaf i’r gwasanaeth.  Roedd cyllideb fach ar gael i gyflogi rhai gweithwyr ieuenctid rhan amser ac roedd ymgyrchoedd recriwtio wedi cael eu cynnal heb lawer o lwyddiant. Gan gyfeirio at Ysgolion y Goedwig, cadarnhaodd mai dyma un o’r meysydd lle gwelwyd y twf mwyaf. Roeddynt wedi cael eu cynnal am ddiwrnod yr wythnos yn wreiddiol ond roedd y ddarpariaeth bellach wedi datblygu i bedwar diwrnod llawn yr wythnos, a rhoddodd wybodaeth am eu lleoliadau. Roedd y ddarpariaeth hon wedi ehangu’n gyflym gan ei bod yn cael ei chynnal yn yr awyr agored ac yn ddiogel o ran Covid.

 

            Dywedodd y Gweithiwr Fforwm Ieuenctid fod partneriaethau’r sector gwirfoddol yn werthfawr iawn yn enwedig gyda’r grwpiau oedran sy’n anodd eu cyrraedd. Roeddynt yn gweithio yn y gymuned, roedd ganddynt yr arbenigedd cywir ac roedd ganddynt eisoes berthynas gyda’r bobl ifanc a’u teuluoedd. Rhoddodd wybodaeth am y Grantiau Cefnogi Ieuenctid, yr Urdd a’r cydweithio ar faterion staffio. Cyfeiriodd at NEWCIS a’r Gofalwyr Ifanc a’r prosiect “Beth wnaeth ddigwydd” a oedd wedi tynnu sylw at effeithiau cyfnod Covid ar bobl ifanc. Roedd hyn oll yn werthfawr tu hwnt ac wedi digwydd oherwydd y gwaith partneriaeth gyda’r sector gwirfoddol.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd newid cyfeiriad wedi bod yn dilyn ymgynghori gyda’r bobl ifanc oherwydd y tro diwethaf i’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig ddod gerbron y pwyllgor oedd 5 Tachwedd 2020.  Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y dull ymlaen i’r dyfodol gyda rhagamcan o arbedion o tua £98.6k y flwyddyn ar staff ac adeiladau, a gofynnodd a oedd y cyngor yn dal i wneud arbedion sylweddol ar y ddarpariaeth clybiau ieuenctid.

 

            Cyfeiriodd yr Uwch Weithiwr Ieuenctid a Chymuned at y rhagamcan o £98.6 k a oedd wedi’i ystumio gan Covid a dywedodd fod £96k o’r swm hwnnw yn ymwneud ag adeiladau ac nid aelodau staff.  Yn 2015 cafodd nifer o adeiladau eu trosglwyddo drwy’r rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol ond roedd rhai yn dal heb eu trosglwyddo a rhoddodd ddiweddariad ar y trosglwyddiadau diweddar. Byddai clybiau ieuenctid yn dal i gael eu cynnal ar y safleoedd hyn a byddai asesiadau risg Covid rheolaidd yn cael eu cynnal.

 

Cafodd yr argymhellion fel y cawsant eu nodi yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Janet Axworthy, a’u heilio gan y Cynghorydd Martin White.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod yn gadarnhaol y gwaith hanfodol a wnaed gan  y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig yn ystod pandemig COVID-19 i gefnogi plant a phobl ifanc Sir y Fflint.

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo ‘Cynyddu Effaith – Cynllun Cyflawni Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint 2021-2024’; a

 

(c)        Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Mrs. Ann Roberts, Uwch Reolwr – Darpariaeth Ieuenctid Integredig, ar ran y Pwyllgor, gan ddymuno’r gorau iddi yn ei hymddeoliad a diolch iddi am ei hangerdd a’i hymrwymiad i’r Gwasanaeth Ieuenctid dros y blynyddoedd.