Mater - penderfyniadau

Levelling Up Fund Round Two

13/06/2022 - Levelling Up Fund Round Two

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad.  Esboniodd fod y Gronfa Codi’r Gwastad yn cyfrannu at agenda codi’r gwastad Llywodraeth y DU trwy fuddsoddi mewn seilwaith a fyddai’n gwella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio cludiant lleol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.  Bwriad y gronfa gwerth £4.8 biliwn oedd creu effaith weledol a diriaethol ar bobl a lleoedd a chefnogi adferiad economaidd.

 

            Roedd yr adroddiad yn cynnig datblygu dau gynnig i’w cyflwyno i Lywodraeth y DU fel rhan o ail rownd y rhaglen a ddisgwylir ar ddechrau 2022.  Cynigiwyd bod y cynigion yn canolbwyntio ar gymunedau arfordirol Sir y Fflint er mwyn: gwella amodau i fusnesau, lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; dod ag asedau treftadaeth yn ôl i ddefnydd; ac annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio’r ardal arfordirol.

 

            Er bod modd i bob awdurdod lleol wneud cais am gyllid Codi’r Gwastad, diben penodol y gronfa yw cefnogi buddsoddiad mewn lleoedd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pob dydd, gan gynnwys hen ardaloedd diwydiannol, trefi difreintiedig a chymunedau arfordirol.   Roedd Llywodraeth y DU wedi gosod awdurdodau lleol mewn categorïau 1, 2 neu 3 yn dibynnu ar lefel yr angen a nodwyd, gyda chategori 1 yn cynrychioli lleoedd yn yr angen mwyaf am fuddsoddiad.  Roedd Cyngor Sir y Fflint wedi cael ei nodi fel awdurdod lleol ‘categori 2’.

 

            Roedd y Gronfa Codi’r Gwastad yn galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am hyd at £20 miliwn i bob etholaeth seneddol.  Byddai cynigion uwch na £20 miliwn ac is na £50 miliwn yn cael eu derbyn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn unig.  Roedd disgwyl i’r ail rownd ddechrau yng ngwanwyn 2022.  Roedd disgwyl i’r rhaglen ddod i ben ym mis Mawrth 2024 a oedd yn golygu fod y cyfnod  i ddarparu prosiectau cyfalaf yn gyfyngedig iawn.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r bwriad oedd cyflwyno dau gynnig, un ar gyfer pob etholaeth seneddol.  Byddai’r cynigion yn canolbwyntio ar gynnwys adfywio, diwylliant a threftadaeth.  Roedd y Cyngor wedi penodi ‘Mutual Ventures’ i weithredu fel rheolwr prosiect y broses a chyfrannu at baratoi cynigion.

 

Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad ac roeddent yn dymuno pob llwyddiant i’r cynigion.

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       bod y bwriad i ddatblygu a chyflwyno cynigion ar gyfer Ail Rownd Cronfa Codi'r Gwastad yn cael ei gymeradwyo yn unol â’r cynigion a osodwyd yn yr adroddiad a

 

(b)       Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ac Aelod Cabinet Datblygu Economaidd i newid a chyflwyno’r cynigion terfynol yn unol â’r cyfeiriad strategol a osodir yn yr adroddiad, datblygu ymyraethau penodol i adlewyrchu’r angen i gyflwyno cynigion cystadleuol a chyraeddadwy.