Mater - penderfyniadau

Multiplying Impact - Flintshire Integrated Youth Provision Delivery Plan 2021-2024

13/06/2022 - Multiplying Impact - Flintshire Integrated Youth Provision Delivery Plan 2021-2024

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y cynllun newydd a ddatblygwyd ar gyfer darparu gwasanaethau ieuenctid y Cyngor, a elwir yn Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig ar gyfer y cyfnod 2021-2024.

 

            Roedd y cynllun wedi’i baratoi yn dilyn ymgynghoriad gyda phobl ifanc, gyda staff yn y Tîm Darpariaeth Ieuenctid Integredig a gyda phartneriaid allweddol oedd yn cefnogi’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc 11 i 25 oed yn Sir y Fflint.   Roedd wedi’i ddatblygu o fewn cyd-destun y pandemig COVID-19 parhaus a oedd wedi’i gydnabod yn eang i fod wedi cael effeithiau arwyddocaol ar iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol pobl ifanc. 

 

            Roedd elfennau o’r cynllun cyflenwi eisoes yn cael eu gweithredu gan fod y gwasanaeth wedi parhau i gefnogi plant a phobl ifanc drwy gydol y pandemig.    Roedd wedi cael ei gynnig mewn ffyrdd gwahanol i weithgareddau gwaith ieuenctid oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a fu ar waith ar adegau gwahanol.

 

            Roedd teitl y cynllun, Cynyddu Effaith, yn fwriadol er mwyn dangos sut yr oedd gwersi a ddysgwyd am ddarparu gwasanaeth yn ystod y pandemig wedi eu hymgorffori yn y gwaith ieuenctid wrth symud ymlaen a sut yr oedd gweithio mewn partneriaeth effeithiol rhwng y Cyngor a phartneriaid allweddol yn yr ardal honno yn fantais gadarnhaol i bobl ifanc a mwyhau ei effaith.

 

            Roedd y cynllun yn amlinellu’r cyd-destun cenedlaethol a lleol ar gyfer gwaith ieuenctid, cyfeirio at yr adborth o’r broses ymgynghori a ddatblygwyd y cynllun a gosod blaenoriaethau uchelgeisiol ar gyfer datblygu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad wedi’i ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yr wythnos gynt ac roedd trafodaeth wedi’i chynnal ar sut yr oedd pobl ifanc yn cael eu cefnogi ar ôl gadael addysg, oedd drwy’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig oedd yn gyfrifoldeb statudol.   Eglurodd fod darpariaeth draddodiadol gwaith ieuenctid yn ystod y pandemig wedi’u cwtogi ond roedd llawer o wasanaethau wedi eu darparu drwy blatfform digidol.   Roedd yr awdurdod yn anelu i gynnal clybiau ieuenctid mewn cymunedau mawr ble roedd yna alw, ond yn ychwanegol, roedd cyfleusterau dros dro yn cael eu darparu ble roedd yna angen.    Yn ogystal, roedd Gweithwyr Ieuenctid yn gweithio o fewn ysgolion uwchradd ble gallai disgyblion dderbyn cyngor a chael eu hatgyfeirio i wasanaethau priodol. 

 

            Roedd y Prif Swyddog a’r Aelod o'r Cabinet yn talu teyrnged i Ann Roberts oedd wedi arwain y darn hwn o waith, oedd yn ymddeol o’r awdurdod.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod gwaith hanfodol y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig yn ystod y pandemig COVID-19 yn cefnogi plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint i gael ei gydnabod yn gadarnhaol; a

 

(b)       Cynyddu Effaith – Cynllun Cyflawni Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint 2021-2024 i gael ei gymeradwyo.