Mater - penderfyniadau

Council Plan 2021-22 Mid-Year Performance Reporting

25/01/2022 - Council Plan 2021-22 Mid-Year Performance Reporting

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro canol blwyddyn er mwyn adolygu’r cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau corfforaethol sy’n cael eu gosod ym Mesurau Adrodd y Cyngor 2020/21 dan gylch gwaith y Pwyllgor.   Roedd yr adroddiad seiliedig ar eithriadau, yn canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tangyflawni yn erbyn y targedau dros y flwyddyn.   Fel y Pwyllgor sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am berfformiad, rhannwyd adroddiad alldro llawn hefyd ar gyfer pob portffolio.

 

Ar y cyfan, roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol gyda 97% o gynnydd da neu foddhaol wedi’i gofnodi yn erbyn gweithgareddau a lefel ganolig/uchel o hyder mewn cyflawni 95% o’u canlyniadau.

 

Darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth am newidiadau mewn lefelau perfformiad yn ymwneud â chael gafael ar wybodaeth yn ddigidol a chadw sgiliau digidol, a oedd yn adlewyrchu lefelau gwahanol o alw drwy gydol y pandemig.

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i dimau Sir y Fflint yn Cysylltu am y gefnogaeth a ddarparwyd i breswylwyr fel rhan o’r thema Tlodi Digidol.   Canmolodd lwyddiant cynlluniau chwarae’r Haf ar draws Sir y Fflint a gofynnodd am gyllid ar gyfer parhau â’r Canolbwynt Cymorth Covid yn Shotton.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n cysylltu â’r Rheolwr Budd-daliadau i ofyn am ymateb ar yr olaf ac ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Haydn Bateman ar gael eglurhad ynghylch cymorth parseli bwyd i etholwr a oedd ar fin cael ei ryddhau o’r ysbyty i lety gwarchod.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Andy Williams a Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:  

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn croesawu’r cynnydd a ddangoswyd yn yr Adroddiad Monitro Perfformiad Canol Blwyddyn; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi’u sicrhau gan yr eglurhad a roddwyd ynghylch y tangyflawni, sy’n bennaf oherwydd ymyriad y pandemig.