Mater - penderfyniadau

Mid-year Performance Indicators for Recovery, Portfolio and Public Accountability Measures

05/08/2022 - Mid-year Performance Indicators for Recovery, Portfolio and Public Accountability Measures

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y fenter bwyd am ddim, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod hwn yn anghysonder yn yr adroddiad a bod y ddwy eitem yn bethau ar wahân. Esboniodd fod brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn cael ei dargedu at ddisgyblion a oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, a’r gobaith oedd y byddai 100% o’r ysgolion yn darparu’r cynnig hwn. Oherwydd y pandemig a’r trefniadau ar gyfer darparu prydau yn ystod Covid, roedd wedi bod yn heriol iawn oherwydd y mesurau diogelwch a oedd yn eu lle a’r ffaith nad oedd ystafelloedd bwyta yn gweithredu yn ôl eu harfer. O ran y ffrwythau am ddim, roedd y cynllun hwn yn cael ei ddarparu gan NEWydd drwy’r Strategaeth Dlodi i ysgolion a chytunwyd i aralleirio’r testun yn ymwneud â’r amcan hwnnw.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham, a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.