Mater - penderfyniadau

Council Tax Base for 2022/23

13/01/2022 - Council Tax Base for 2022/23

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod gosod Sylfaen Treth y Cyngor yn rhan ganolog o’r broses i osod y Gyllideb Refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2022/23, gan ganiatáu i’r Cyngor, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned gyfrifo Praesept Treth y Cyngor at y flwyddyn nesaf.

 

            Dywedodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y sylfaen wedi’i chyfrifo yn seiliedig ar 65,194 o eiddo Band ‘D’, ar ôl ystyried cyfanswm yr eiddo a fyddai’n gorfod talu Treth y Cyngor, gan dynnu’r rhai sydd wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor neu lle rhoddir gostyngiadau statudol.

 

            Mae gosod sylfaen y dreth yn seiliedig ar 65,194 o eiddo Band ‘D’ hefyd yn cynrychioli twf ymylol yn y Sylfaen Dreth o 0.26% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a oedd gyfwerth â chynnydd o 168 eiddo Band D ar ôl ystyried symudiad naturiol mewn gostyngiadau ac eithriadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Sylfaen Dreth yn seiliedig ar 65,194 o eiddo Band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23;

 

(b)       Parhau i osod disgownt o ‘ddim’ ar gyfer eiddo dan unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) a bod hynny'n berthnasol i’r sir gyfan;

 

(c)        Parhau i osod premiwm o 50% ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi sy’n dod o dan gynllun Premiwm Treth y Cyngor yn 2022/23.