Mater - penderfyniadau

Capital Strategy 2022/23 – 2024/25

13/01/2022 - Capital Strategy 2022/23 – 2024/25

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad ar Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a gofynnodd i’r Cabinet argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r strategaeth.

 

            Mae’r adroddiad yn egluro nodau allweddol y strategaeth a chynnwys pob adran, a pham bod angen y strategaeth.

 

            Yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), mae’n rhaid i awdurdodau bennu cyfres o ddangosyddion darbodus. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2022/23 – 2024/25.

 

            Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion y tablau yn yr atodiad sy’n ymwneud â Dangosydd Darbodus: Amcangyfrif o’r Gwariant Cyfalaf mewn miliynau o bunnau, Cyllido Cyfalaf mewn miliynau o bunnau, Isafswm Darpariaeth Refeniw mewn miliynau o bunnau, Dangosydd Darbodus: Amcangyfrif o’r Nawdd Cyfalaf Gofynnol mewn miliynau o bunnau, Dangosydd Darbodus: Amcangyfrif o’r Nawdd Cyfalaf Gofynnol mewn miliynau o bunnau, Dangosydd Darbodus: Terfyn Awdurdodedig a Ffin Weithredol ar gyfer Dyledion Allanol, a Dangosydd Darbodus: Cyfran o’r Costau Cyllido i’r Ffrwd Refeniw Net.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor Sir;

 

(b)       Cymeradwyo ac argymell y canlynol i'r Cyngor Sir:

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2022/23 – 2024/25 fel y manylir yn nhablau 1, a 4 – 7 ar gyfer y Strategaeth Gyfalaf

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf)