Mater - penderfyniadau

Medium Term Financial Strategy / Budget 2022/23 - Stage 2 -Overview & Scrutiny Responses

13/01/2022 - Medium Term Financial Strategy / Budget 2022/23 - Stage 2 -Overview & Scrutiny Responses

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd fod y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, yn ystod mis Medi a Hydref, wedi adolygu’r pwysau o ran costau, a’r cyfleoedd i reoli costau a sicrhau effeithlonrwydd, yn unol â’u cylchoedd gorchwyl perthnasol.

 

Amlinellwyd trefn y cyfarfodydd a’r penderfyniadau a wnaed ymhob un ohonyn nhw yn yr adroddiad, ac roedd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cefnogi’r pwysau ariannol ar bob portffolio, ac ni edrychir ymhellach am ragor o feysydd i arbed costau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr holl Aelodau wedi mynegi hyder yn y broses a gynhaliwyd. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datblygu eu sylfaen dystiolaeth o’r angen, a chafodd ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru yr wythnos flaenorol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr Aelodau wedi cael eu hatgoffa yn ystod pob un o’r ymgynghoriadau o’r cyhoeddiad a wnaed ar 7 Medi 2021, sef y bydd treth iechyd a gofal cymdeithasol newydd yn cael ei chyflwyno dros y DU o Ebrill 2022 ymlaen, i ariannu diwygiadau i’r sector gofal, a chyllid y GIG yn Lloegr. Byddai’r dreth yn dechrau fel cynnydd o 1.25% yn yr Yswiriant Gwladol a gaiff ei dalu gan weithwyr, pobl hunangyflogedig a chyflogwyr. Byddai taliadau ‘canlyniadol’ yn cael eu gwneud i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw. Er hyn, fel cyflogwr mawr ei faint, byddai hefyd yn cael effaith sylweddol ar gyllideb y cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r holl Aelodau a gymerodd ran ym mhroses y gyllideb a ddangosodd nad oedd mwy o arbedion effeithlonrwydd i’w canfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid derbyn canlyniad yr ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer cyllideb 2022/2023 ynghylch swyddogaeth y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.