Mater - penderfyniadau
Standards Forum Pre-Briefing
20/05/2022 - Standards Forum Pre-Briefing
Rhoddodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndir a dywedodd fod Cyngor Gwynedd wedi gwirfoddoli i gynnal cyfarfod nesaf y Fforwm Safonau ym mis Tachwedd, fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai’r Gynhadledd Safonau Ddwyflynyddol a drefnwyd yn gohirio hyn. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at ddogfen y Fforwm, fel y manylwyd yn yr adroddiad a gofynnodd a oedd unrhyw eitemau i’w trafod yr oedd y Pwyllgor yn dymuno eu rhoi ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf. Eglurodd y Swyddog Monitro ei fod wedi awgrymu nifer o eitemau yn adran 1.04 yr adroddiad ar gyfer ystyriaeth.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor gysylltu â’r Swyddog Monitro cyn diwedd yr wythnos gydag unrhyw awgrymiadau neu sylwadau pellach yr oeddent yn dymuno eu cynnig.
PENDERFYNWYD:
Bod aelodau’r Pwyllgor yn cysylltu â’r Swyddog Monitro gydag unrhyw awgrymiadau/sylwadau pellach ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod nesaf y Fforwm Safonau.