Mater - penderfyniadau
Glan y Morfa Court - supporting independence for people with a disability
17/05/2022 - Progress update on Llys Yr Iarll and Glan y Morfa
Roedd y Rheolwr Gwasanaeth Anabledd ac Iechyd Meddwl wedi cyflwyno’r adroddiad a rhoi gwybodaeth i Aelodau yn ymwneud a dwy fenter tai newydd a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda Wales and West Housing Association, Strategaeth Dai’r Cyngor a’r Tîm Tai ac Asedau:
· Llys Yr Iarll, Y Fflint
·
Glan y Morfa, Cei
Connah
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am Glan y Morfa, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Anabledd ac Iechyd Meddwl nad oedd unrhyw broblem i symud pobl ymlaen ar hyn o bryd gan ei fod ond wedi bod yn agored am ychydig fisoedd ond roedd yn ymwybodol bod yna brinder o stoc dai Hysbysodd y Pwyllgor fod un o’i swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Tai ac yn eistedd ar y Panel Tai Arbenigol a phan fyddai’r Tîm Tai a Chymdeithasau Tai eraill yn nodi bod yna eiddo yn wag drwy’r gwasanaeth Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH), roedd yn ei archwilio ar gyfer addasrwydd.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Anabledd ac Iechyd Meddwl wrth y Cynghorydd Gladys Healey bod Glan y Morfa wedi’i addasu’n llwyr ac yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan bobl mewn cadeiriau olwyn ac nid oedd unrhyw derfyn amser o ran faint oedd pobl yn aros yno ond dywedodd y byddai’n fisoedd yn hytrach nag unrhyw beth yn hirach gan mai pobl oedd yn aros am gartrefi hirdymor
Cynigiwyd argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Gladys Healey ac eiliwyd gan y Cynghorydd Lowe.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cynnwys yr adroddiad a’r partneriaethau cadarnhaol a ffurfiwyd wedi arwain at fwy o gyfleoedd tai i bobl ag anableddau yn cael ei nodi; a
(b) Bod y deilliannau lles i bobl anabl a’r gostyngiad yn y galw am wasanaethau cymdeithasol yn cael ei nodi.