Mater - penderfyniadau

Council Tax Premium Scheme for Second Homes and Long-term Empty Properties

13/01/2022 - Council Tax Premium Scheme for Second Homes and Long-term Empty Properties

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi pwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol yng Nghymru godi neu amrywio premiwm Treth y Cyngor hyd at 100% uwchlaw cyfradd safonol Treth y Cyngor ar gategorïau penodol o ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Roedd y Cyngor wedi penderfynu ym mis Mawrth 2016 i gyflwyno cynllun ym mis Ebrill 2017 a chodi Premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

 

            Ers hynny, roedd y Cyngor wedi penderfynu parhau gyda’r cynllun pob blwyddyn ond heb unrhyw newid i’r lefelau premiwm. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y prif ystyriaethau os oedd y Cabinet yn ei ystyried yn briodol i amrywio’r lefelau o’r premiwm o 2022/23. 

 

Roedd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wedi tynnu sylw’r Aelodau at y tablau yn yr adroddiad oedd yn dangos y nifer o eiddo gwag ac ail gartrefi hirdymor, a’r dadansoddiad o’r lefelau premiwm a godwyd ar draws Cymru ar gyfer ail gartrefi ac/neu eiddo gwag hirdymor.  

 

Ychwanegodd drwy ddefnyddio’r system Treth y Cyngor i gymell perchnogion i wneud defnydd parhaol o eiddo gwag yn parhau i gynnig gallu cyfyngedig i fynd i’r afael â’r galw lleol am dai.

 

Byddai ymarfer ymgynghori cyhoeddus llawn yn cael ei gynnal i gael adborth, gan gynnwys adborth gan drethdalwyr yr effeithir arnynt yn barhaol gan y newidiadau.    Yna, byddai adborth yn cael ei ystyried gan y Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol cyn unrhyw argymhelliad terfynol a mabwysiadu yng nghyfarfod y Cabinet a’r Cyngor Sir.

 

Roedd y Cynghorydd Bithell yn cefnogi’r premiwm ar y sail ei fod yn helpu i wneud ailddefnydd o dai i bobl leol a fyddai’n cynorthwyo gyda’r rhestr aros am dai.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, eglurodd y Prif Swyddog y byddai manylion yr ymgynghoriad ar gael ar wefan y Cyngor a chysylltir â pherchnogion yr eiddo dan sylw yn uniongyrchol i’w hysbysu am yr ymgynghoriad. 

 

Roedd y Cynghorydd Hughes yn awgrymu y gellir defnyddio cynnydd cynyddol, a dywedodd y Prif Swyddog y gellir cymryd hyn i ystyriaeth. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod adolygiad pellach yn cael ei gynnal i benderfynu pa un a ddylid newid lefel premiwm Treth y Cyngor ar gyfer ail dai ac eiddo gwag hirdymor, ac os felly, ar ba lefel; a

 

 (b)      Bod ymarfer ymgynghori cyhoeddus llawn yn cael ei gynnal cyn argymell unrhyw newidiadau i’r Cyngor llawn.