Mater - penderfyniadau
Estyn Thematic Review Update
16/11/2021 - Estyn Thematic Review Update
Cyflwynodd yr Uwch-reolwr (Gwella Ysgolion) yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y pump prif argymhelliad i Lywodraeth Cymru a Chynghorau i roi sylw yn dilyn yr adolygiad thematig o’r gwaith a wnaed gan adrannau addysg pob Cyngor yng Nghymru i gefnogi eu cymunedau sy'n dysgu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn ystod y cyfnod o Mawrth i Hydref 2020.
Roedd llythyr adolygiad cyntaf Sir y Fflint, a dderbyniwyd ym mis Ionawr 2021 wedi bod yn gadarnhaol iawn. Yn ystod tymor yr haf 2021, roedd Estyn wedi cynnal adolygiadau dilynol gyda holl Cynghorau yng Nghymru i ystyried y cynnydd a wnaed yn erbyn eu hargymhellion cychwynnol yn yr adolygiad thematig cenedlaethol. Roedd yr adolygiad wedi arwain at ail lythyr at y Prif Weithredwr oedd yn rhoi lefel uchel o sicrwydd bod y Portffolio yn parhau i weithio’n effeithiol drwy ei adnoddau ei hun a thrwy ei gefnogaeth i ysgolion mewn partneriaeth â GwE. Roedd copi o lythyr, oedd yn cynnwys adborth ar ymateb y Cyngor i bump argymhelliad y Cyngor ynghlwm fel Atodiad 1 o’r adroddiad.
Daeth yr Uwch-Reolwr i’r casgliad bod yr adolygiad thematig wedi casglu’r newidiadau positif o amgylch dysgu cyfunol a digidol a’r cynnydd a wnaed tuag at y cwricwlwm newydd.
Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu’r llythyr a dywedodd ei fod yn cynnig lefel o sicrwydd. Roedd y Cadeirydd y adleisio’r sylwadau a wnaed a dywedodd y dylid canmol ysgolion am y gwaith a wnaed.
Roedd yr argymhelliad fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie a’r Cynghorydd Janet Axworthy.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwaith effeithiol y Portffolio Addysg, ar y cyd â’r gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion GwE, i sicrhau fod dysgwyr Sir y Fflint wedi parhau i gael darpariaeth addysgol effeithiol trwy’r pandemig Covid-19; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd cadarnhaol a wnaed yn erbyn pob un o’r pum argymhelliad gan Estyn yn yr adolygiad thematig cenedlaethol gan y Portffolio Addysg ac ysgolion.