Mater - penderfyniadau

Flintshire Financial Sustainability Assessment Final report

28/10/2021 - Flintshire Financial Sustainability Assessment Final report

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar ganfyddiadau Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol y Cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dilyn adolygiad o bob Cyngor ledled Cymru.  Nid oedd angen ymateb ffurfiol gan fod yr adroddiad wedi cyflwyno adlewyrchiad teg o sefyllfa ariannol y Cyngor a dim materion newydd i’w nodi. Cafwyd yr eitem er gwybodaeth yn unol â’r protocol i adroddiadau rheoleiddio.

 

Wrth gyflwyno’r canfyddiadau, croesawodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gydnabyddiaeth o ‘strategaeth ariannol glir ac wedi’i rannu’n dda’, perfformiad y gorffennol ar gyflawniadau arbedion effeithlonrwydd a gwariant i’w gymharu’r gyllideb. Amlygodd y sylwadau ar Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru i helpu i adfer incwm a gollwyd a defnydd y Cyngor o’r arian wrth gefn.

 

Dywedodd Matt Edwards bod yr adroddiad wedi dod i gasgliad o’r ail gam o’r gwaith asesu cynaliadwyedd ariannol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod 2020-21 yn dilyn asesiad sylfaenol o’r effaith cychwynnol y pandemig yn 2019-20.

 

Dywedodd Gwilym Bury bod pob adroddiad cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru, a bod adroddiad cryno cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Nodwyd bod bwlch cyllid arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2022-23 yn adlewyrchu’r sefyllfa ar adeg yr adolygiad ac wedi cynyddu ers hynny fel y nodwyd yn gynharach yn y cyfarfod.

 

Diolchodd y Cynghorydd Geoff Collett y swyddogion am yr adroddiad cadarnhaol yn ogystal â’r Cynghorydd Paul Johnson a oedd yn falch nad oedd unrhyw argymhellion newydd i’r Cyngor.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Andy Williams a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a chadarnhau nad oes unrhyw faterion i’w cyflwyno gerbron y Cabinet.