Mater - penderfyniadau

Revenue budget monitoring 2021/22 (Interim)

21/12/2021 - Revenue budget monitoring 2021/22 (Interim)

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi'r trosolwg cyntaf o sefyllfa fonitro'r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. Adroddwyd drwy eithriad ar amrywiadau arwyddocaol a allent effeithio ar sefyllfa ariannol 2021/22.

 

Yn seiliedig ar y lefel uchel o ragdybiaethau yn yr adroddiad, roedd yr amrywiadau posibl yn y gyllideb a ddynodwyd fesul Portffolio gyfwerth ag isafswm gofyniad gwariant net ychwanegol o £1m.

 

Byddai’r gallu i liniaru’r risgiau ariannol a gododd yn sgil y pandemig yn hanner cyntaf y flwyddyn yn dibynnu i raddau helaeth ar barhad arian caledi a cholled incwm gan Lywodraeth Cymru.  Ar y cam hwn roedd yn ansicr a fyddai’r Gronfa Caledi’n cael ei hymestyn y tu hwnt i fis Medi pe bai’r cyfyngiadau presennol cysylltiedig â’r pandemig yn parhau.  Ni chymerwyd unrhyw ystyriaeth o’r risgiau ariannol a fyddai’n codi pe na cheid unrhyw arian ychwanegol mewn sefyllfa o bandemig hirfaith.

 

Bydd adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi a fydd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa ariannol gyffredinol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a'r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb ariannol 2021/22;

 

(b)       Cymeradwyo trosglwyddiad cyllidol o £0.175m rhwng Gwasanaethau Ardaloedd Lleol i Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig o fewn cyllideb brynu’r Gwasanaethau Pobl H?n, a throsglwyddiad cyllidol o £0.300 rhwng Gwasanaethau Ardaloedd Lleol i'r Gyllideb Gwasanaethau Iechyd Meddwl Preswyl; a

 

(c)        Cymeradwyo clustnodi arian o’r Gronfa Wrth Gefn at Raid ar gyfer Buddsoddi mewn Newid (£0.400m) a Thywydd Garw (£0.250m).