Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking (S & H)

17/05/2022 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.   Dywedodd y byddai yna gyfarfod Arbennig ar 30 Medi am 11.00am i ystyried y Gyllideb am y flwyddyn i ddod ac ei bod yn bosibl y byddai Adroddiad Perfformiad Canol Blwyddyn yn cael ei ychwanegu at y cyfarfod ar 9 Rhagfyr gyda phosibilrwydd bod rhai o’r eitemau yn cael eu symud i gyfarfod mis Ionawr. 

 

                        Mewn ymateb i’r cwestiwn, cododd y Cadeirydd fater yngl?n â thrafod effaith ariannol Covid ar y gyllideb, awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod diweddariad ar lafar byr yn gallu cael ei roi yng nghyfarfod y Gyllideb ar 30 Medi ond nodwyd na fyddai’n adroddiad llawn.    Byddai trafodaeth wedi ei rhaglennu yn cael ei chynnal yn hwyrach yn y flwyddyn y cytunodd y Cadeirydd arno ond pwysleisiodd yr angen i fod yn ymwybodol o effaith Covid ar y Sector Preifat. 

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman, rhannodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) gyda’r Pwyllgor yr hyn yr oedd wedi’i ddysgu o gyfarfod cynt y diwrnod hwnnw gyda’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Llywodraeth Cymru (LlC).  Dywedodd y byddai yna ganlyniad i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i’r cyllid y cytunwyd arno yn y Senedd gyda’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Dywedodd mae’n bosibl na fyddai’r sefyllfa’n glir erbyn 30 Medi gan fod gan Lywodraeth Cymru hyblygrwydd a byddai’n cymryd amser i benderfynu sut yr oedd yn cael ei ddyrannu o fewn Cymru.

 

            Cyfeiriodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd at adroddiad olrhain camau a hysbysodd Aelodau bod ymateb camau yn weddill gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Llywodraeth Cymru yn faterion oedd yn weddill.    Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymuned ac Addysg y cysylltwyd â’r ddau a derbyniwyd ymateb eu bod yn gweithio ar y mater gan Lywodraeth Cymru y byddant yn ymateb.    Byddai’r Pwyllgor yn derbyn diweddariad unwaith y derbyniwyd ymatebion.

           

Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod y rhan fwyaf o’r materion a drafodwyd gyda’r Swyddog Cyswllt dros yr haf drwy’r Gr?p Lleisiau Uchel Pobl Ifanc yn faterion yr oedd Plant yn teimlo oedd yn bwysig a rhannwyd fel mater o drefn rhwng Gweithwyr Cymdeithasol presennol a newydd fel rhan o drosglwyddiadau.   Eglurodd y byddai adborth yn cael ei roi yn y Fforwm Gwasanaethau Plant nesaf. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cunningham at y daith o amgylch canol trefi a awgrymodd Marion Bateman yn y cyfarfod diwethaf a gofynnodd a oedd unrhyw beth wedi’i wneud.    Roedd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd wedi cadarnhau ei bod wedi cysylltu a’r Ymgynghorydd Polisi Strategol a byddai ymweliadau safle yn cael eu trefnu pan fyddai’r sefyllfa’n gwella.

 

Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Cunnigham a oedd yn bosibl cymryd i ystyriaeth torri’r gwrychoedd ar hyd y llwybr troed o gylchfan yr A55 ym Mrychdyn i’r gylchfan ger y maes awyr gan y byddai pobl mewn cadeiriau olwyn yn ei chael hi’n anodd eu defnyddio. 

 

Roedd y Cadeirydd wedi rhoi diweddariad i’r Pwyllgor am y llythyr yr oedd wedi’i ysgrifennu at BIPBC yn ymwneud â symud cleifion i Feddygfa Cei Connah oherwydd bod Meddygfa Queensferry wedi cau.    Mewn ymateb i un o’r pwyntiau am yr ystyriaeth o ddefnyddio Ysbyty Glannau Dyfrdwy fel safle arfaethedig, nodwyd bod yr ysbyty’n cael ei ddefnyddio’n llawn ar hyn o bryd ac nad oedd yna le ar gyfer gwasanaethau ychwanegol.    Mae rhesymau eraill yn cynnwys nad oedd y maes parcio yn addas ar gyfer cleifion ychwanegol ac nid oedd yna lwybr bws uniongyrchol.    Roedd y Cadeirydd yn anghytuno gyda’r sylwadau hyn i gyd.   Roeddent hefyd yn awgrymu y gall cleifion geisio cael mynediad i wasanaethau yn uniongyrchol o’r ysbyty a dywedodd y Cadeirydd mai nid dyna’r achos yn Ysbyty Treffynnon ble lleolir meddygfa.   Roedd BIPBC yn ymgynghori gyda chleifion yngl?n â’r cynigion ar hyn o bryd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y cynnydd a wnaed i gwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill yn cael ei nodi.