Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking

23/12/2022 - Forward Work Programme and Action Tracking

            Wrth gyflwyno’r adroddiad ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol, fe amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfodydd Medi a Hydref.  Fe soniodd hefyd am yr eitemau parhaus yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a thynnu sylw at y rhai a oedd wedi’u cwblhau.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at e-bost a oedd wedi’i anfon at aelodau’r pwyllgor yn gofyn am awgrymiadau i’w cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.  Oherwydd bod nifer fawr o awgrymiadau wedi dod i law, roedd y rhain wedi cael eu rhannu â’r Prif Swyddogion er mwyn eu hystyried.  Gofynnodd a oedd yr aelodau’n hapus i roi amser i’r swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Medi ar y ffordd orau i ymdrin â’r rhain.

            Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y byddai cynnwys amserlenni ar gyfer bob eitem yn ddefnyddiol iawn.  Yna cafwyd trafodaeth fanwl am yr eitemau ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a dywedodd y Cynghorydd Peers fod rhai o’r amserlenni y tu hwn i reolaeth swyddogion.  Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), ei bod yn bwysig bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei rhoi ar waith ym mis Medi ac y byddai’n cadw’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Peers yngl?n ag amserlenni mewn cof.

            Cafodd yr argymhellion, fel y nodir yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Allport a Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

(a)     Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei chymeradwyo;

(b)     Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.