Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking

24/01/2022 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried a chytunwyd ar y newidiadau canlynol:

 

·         Adroddiad ar y Strategaeth Newid Hinsawdd i’w rhoi gerbron ym mis Chwefror.

·         Y briff aelodau ar rwydwaith Cludiant Integredig Sir y Fflint i’w aildrefnu ar gyfer dechrau 2022.

·         Adroddiad ar bolisi’r Cyngor ar ryddhau bal?ns a’r effaith amgylcheddol i fod ar raglen cyfarfod i ddod, yn unol â chais y Cynghorydd Dave Evans.

·         Y Cynghorydd Dennis Hutchinson i drafod ei ofynion ar gyfer adroddiad mewn cyfarfod i ddod ar safle tirlenwi Standard gyda’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylched a’r Economi).

 

Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod mis Mehefin am orfodaeth mewn perthynas â sbwriel sy’n cael ei daflu ar ôl i bobl fod yn yfed alcohol, darllenodd yr Hwylusydd  gyngor yr Adran Gyfreithiol a oedd yn egluro nad yw'r pwerau deddfwriaethol sydd ar gael i'r heddlu o dan y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored ar gael i Awdurdodau Lleol ar hyn o bryd.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid nodi'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y cynnydd a wnaed gyda’r camau gweithredu heb eu cwblhau yn cael ei nodi.