Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking (EY&C)

05/08/2022 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ddrafft a chadarnhaodd fod y cyfarfod nesaf ar 24 Mawrth wedi cael ei ganslo. Rhoddodd amlinelliad o’r adroddiadau i’w cyflwyno yn y cyfarfodydd a fyddai’n dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai. Gan symud ymlaen at yr adroddiad Olrhain Gweithredu, cadarnhaodd fod yr holl gamau gweithredu a oedd yn codi o’r cyfarfod diwethaf fel y’u dangosir yn Atodiad 2 o’r adroddiad, wedi cael eu cwblhau. 

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor ychwanegu dau adroddiad at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i ymdrin â’r meysydd canlynol: -

 

  • Effaith y pandemig ar sgiliau llythrennedd a rhifedd a’r dulliau o fynd i’r afael â hyn; a’r

 

  • Prinder sgiliau ar draws Gogledd Cymru a’r dulliau o fynd i’r afael â hyn.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Pwyllgor Adferiad diweddar lle trafodwyd y broblem prinder sgiliau. Rhoddwyd esboniad o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn y sector addysg i hyrwyddo cyfleoedd addysgol/gwaith er mwyn mynd i’r afael â’r prinder sgiliau ar draws Gogledd Cymru.   Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Adferiad, esboniodd yr Hwylusydd fod Mrs. Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cytuno i ddod i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Adferiad i amlinellu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol ar gyfer Gogledd Cymru

 

a’r sector addysg. Awgrymodd y byddai’r cyflwyniad a roddwyd yn y Pwyllgor Adferiad yn darparu gwybodaeth a fyddai’n sail i’r adroddiadau sydd i’w hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’r Cadeirydd ac awgrymodd y dylid cyflwyno’r ddau adroddiad canlynol gerbron y Pwyllgor: -

 

1)    Adroddiad yn rhoi trosolwg o effaith y pandemig ar sgiliau craidd disgyblion a sut roedd ymyriadau a chynlluniau yn cael eu defnyddio i sicrhau bod dysgwyr yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau.

2)    Adroddiad i gysoni’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol a’r Uwch Reolwr ar gyfer Gwella Ysgolion drwy Ddysgu Cymunedol i Oedolion, er mwyn cynorthwyo pobl yn y gymuned i wella eu sgiliau.

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrymiadau a wnaed gan y Cadeirydd a’r Prif Swyddog.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie, a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

(b)     Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei hawdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)     Bod y cynnydd a wnaed i gwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill yn cael ei nodi.