Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
23/12/2022 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol gyfredol i’w hystyried.
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am farn ar amseriad yr adroddiad ar Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, Adran 13A (Is-adran 1C). Fel cynigydd yr eitem honno yn y cyfarfod blaenorol, nododd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei fod yn fodlon â’r amserlen ar gyfer mis Mawrth 2023 ac awgrymodd y dylid rhoi’r cyfle i gyrff perthnasol megis Shelter Cymru a Chyngor ar Bopeth Sir y Fflint gyfrannu.
Gofynnodd y Cadeirydd i ddwy o'r eitemau a awgrymodd o'r cyfarfod blaenorol – y wybodaeth ddiweddaraf ar y thema Tlodi ac allanoli/rhannu rhai o wasanaethau'r Cyngor i nodi unrhyw fanteision ariannol - gael eu hamserlennu ar gyfer mis Tachwedd neu fis Rhagfyr i helpu i hysbysu ystyriaethau cyllidebol.
Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Ron Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd; a
(b) Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.