Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 7)

25/01/2022 - Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 7)

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) yn ystod mis 7, cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Ar Gronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa arfaethedig ar ddiwedd y flwyddyn- heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a gwella’r arenillion ar effeithlonrwydd- yn warged gweithredol o £0.655 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog i’w dalu o’r cronfeydd wrth gefn) a oedd yn adlewyrchu symudiad ffafriol o £0.428 miliwn o fis 6.   Byddai hyn yn gadael balans cronfa wrth gefn hapddigwyddiad o £6.543 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.   Nodwyd y prif feysydd symudiad yn yr adroddiad gan gynnwys Tai ac Asedau lle’r oedd argymhelliad i’r Cabinet gymeradwyo trosglwyddiad cyllideb gyflwyniadol ar gyfer costau cyfleustodau canolog i Gyllid Canolog a Chorfforaethol.   Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran y dyfarniad cyflog, ceisiadau am gyllid brys a chronfeydd wrth gefn heb eu neilltuo.

 

Byddai gorwariant arfaethedig o £0.539 miliwn ar y CRT yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £3.933 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant. 

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ar eiddo gwag, siaradodd y Prif Weithredwr am y ffactorau sy’n cyfrannu a’r effeithiau economaidd ar eiddo gwag a dywedodd fod cynyddu’r nifer o gontractwyr sy’n paratoi eiddo ar gyfer tenantiaid newydd o gymorth i wella perfformiad yn gyffredinol.

 

Wrth amlygu’r gwaith a wnaed ar fonitro cyllideb a chyfraddau casglu Treth y Cyngor, diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, y Rheolwr Refeniw a’u timau priodol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:  

 

O ystyried yr adroddiad ar Fonitro’r Gyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 7), bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi yn y Cabinet.