Mater - penderfyniadau

Developing In House Residential Care for Children

21/04/2022 - Developing In House Residential Care for Children

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) adroddiad i gefnogi’r cynnig i’r Cyngor fod yn ddarparwr uniongyrchol o ofal preswyl i blant. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd ei bod yn bwysig fod datblygu Cartref Gofal Plant preswyl mewnol yn cael ei weld fel rhan o agwedd system gyfan at gefnogi plant a phobl ifanc. Roedd hyn yn cynnwys nifer o brosiectau ategol a oedd wedi’u hanelu at ostwng nifer y plant sy’n derbyn gofal a chefnogi mwy o blant drwy faethu gan yr awdurdod lleol, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod y Cyngor yn dibynnu ar y sector annibynnol i ddarparu Gofal Preswyl i Blant a bod hynny’n ddrud ac yn anghynaladwy. Roedd y lleoliadau’n aml y tu allan i’r ardal oedd yn golygu fod plant yn cael eu lleoli i ffwrdd o’u teuluoedd, eu ffrindiau, a’u cymunedau lleol. Er mwyn sicrhau newid, roedd y Cyngor wedi gosod ymrwymiad yn ystod y tair blynedd ariannol nesaf i adolygu’r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc gyda golwg ar leihau ac o bosibl cael gwared ar yr angen am leoliadau y tu allan i’r sir. Roedd yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau Tai ac Addysg y Cyngor, a’r Gwasanaeth Iechyd i alluogi plant i gael gofal yn lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd rhoddodd yr Uwch Reolwr eglurder am y costau ariannol sy’n gysylltiedig â darpariaeth Cartref i Gr?p Bychan a chyfeiriodd at gostau refeniw a chyfalaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey dywedodd yr Uwch Reolwr nad oedd gan y Cyngor gyfrifoldeb rhianta corfforaethol dros blant o Gyngor Bwrdeistref Wrecsam. Eglurodd fod cytundeb cyfreithiol yn cael ei ddrafftio i alluogi Cyngor Bwrdeistref Wrecsam fel partner i wneud cyfraniad priodol at gost darparu gofal.

 

Roedd yr Aelodau’n gryf o blaid y cynlluniau rhagweithiol a gynigiwyd a diolchwyd i’r Swyddogion am eu gwaith. Cynigiwyd derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd David Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y Pwyllgor yn cefnogi’r symudiad i fod yn ddarparwr uniongyrchol o Ofal Preswyl i Blant; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r prosiectau blaenoriaeth ar gyfer datblygiadau mewnol; Arosfa, T? Nyth, Darpariaeth Argyfwng a Chartrefi Gr?p Bychan, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.