Mater - penderfyniadau

Welsh Language Annual Monitoring Report 2020/21

21/12/2021 - Welsh Language Annual Monitoring Report 2020/21

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi sut y bodlonwyd Safonau’r Gymraeg. Cafodd y Safonau sydd angen eu bodloni eu nodi mewn Hysbysiad Cydymffurfio. Roeddynt yn unigryw i bob sefydliad ac roeddynt yn nodi beth oedd disgwyl i bob sefydliad ei weithredu yn Gymraeg, a’r cyfnod o amser er mwyn cydymffurfio.

 

            Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o gynnydd y Cyngor wrth gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg gan nodi meysydd ar gyfer rhagor o gynnydd a gwelliant.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi, gan nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach;

 

(b)       Cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol; a

 

(c)        Bod y Cabinet yn derbyn adroddiad canol blwyddyn am y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn.