Mater - penderfyniadau

Constitutional Issues including Committees

25/03/2022 - Constitutional Issues including Committees

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii) - (xiv) Gweithdrefn y Cyngor. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig creu Pwyllgor Adfer newydd i oruchwylio’r gwaith hanfodol o helpu’r Cyngor i adfer ar ôl effaith pandemig Covid-19. Roedd yr adroddiad hefyd yn delio â phenodi Pwyllgorau a chadeiryddion eraill a materion eraill fel dyrannu seddi, dan gydbwysedd gwleidyddol.

 

Cafodd yr adroddiad ei rannu'n adrannau, ac roedd pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol i’w hystyried.  Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisiwyd arnynt.

 

(i)        Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol: Pwyllgor Apeliadau; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; Pwyllgor Cwynion; Pwyllgor Apeliadau Cwynion; Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu; Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Adfer; Pwyllgor Safonau; a’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Apeliadau;

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; 

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd;

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio;

Pwyllgor Cwynion; 

Pwyllgor Apeliadau Cwynion;

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu;

Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau); 

Pwyllgor Trwyddedu;

Pwyllgor Cynllunio; 

Pwyllgor Adfer;

Pwyllgor Safonau; a’r

Pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a restrir yn yr adroddiad. 

 

(ii)        Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod rhaid penderfynu ar faint pob Pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol.  Roedd y Cyngor wedi penderfynu o’r blaen y dylai’r prif Bwyllgorau fod yn ddigon mawr i bob gr?p gwleidyddol gael ei gynrychioli.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod maint pob pwyllgor fel a nodir ym mharagraff 1.04 yr adroddiad.

 

 

(iii)       Cylch Gorchwyl Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgorau a benodwyd ganddo.  Roedd cylch gorchwyl y Pwyllgor Adfer wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cylch gorchwyl pob Pwyllgor fel a nodir yn y Cyfansoddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

(iv)      Cydbwysedd Gwleidyddol

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu yn, neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, y Cyfarfod Blynyddol, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y'i diwygiwyd.   Nid oedd y rheolau hynny’n berthnasol i’r Cabinet na’r Pwyllgor Safonau.  Byddai’r rheolau cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol i’r Pwyllgor Adfer newydd.

 

Er mwyn cyflawni cydbwysedd gwleidyddol, bu’n angenrheidiol gwahanu’r Pwyllgorau ‘cyflogaeth’, sef y Pwyllgor Cwynion, Apeliadau Cwynion ac Ymchwilio a Disgyblu.   Fel arall, byddai’r grwpiau llai dan anfantais trwy orfod defnyddio rhan o’u dyraniad seddi ar bwyllgorau nad oeddent yn cwrdd yn aml, os o gwbl.

 

Roedd 131 o seddi ar gyfer Cynghorwyr ar draws holl Bwyllgorau’r Cyngor yn seiliedig ar y gr?p presennol o aelodau.   Roedd hawl pob gr?p i seddi wedi’i nodi yn y tabl yn yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am eglurder o ran y byddai’r Cynghorydd Andy Hughes wedi’i alinio â Gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol, a chadarnhawyd hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Christine Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y seddi’n cael eu dyrannu yn unol â chydbwysedd gwleidyddol fel a nodir yn atodiad 2 yr adroddiad a’r rheolau ar aelodaeth y Pwyllgorau fel a nodir ym mharagraffau 1.08 – 1.14 yr adroddiad, a bod y seddi ar y Pwyllgorau Cwynion, Apeliadau Cwynion ac Ymchwilio a Disgyblu yn cael eu dyrannu er mwyn rhoi gwasgariad gwleidyddol eang o ran aelodaeth. 

 

 

(v)       Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu penodi gan wahanol gyrff, rhai ohonynt a oedd yn destun cyfyngiadau.  Roedd tabl ym mharagraff 1.17 yr adroddiad yn amlinellu pa gorff oedd yn penodi pa Gadeirydd a pha gyfyngiadau (os o gwbl) oedd yn berthnasol.  

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts y canlynol ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin:

 

  • Penodi’r Cynghorydd Ted Palmer yn Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd;
  • Penodi’r Cynghorydd Neville Phillips yn Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd;
  • Penodi’r Cynghorydd Tony Sharps yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu;
  • Penodi’r Cynghorydd David Wisinger yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio; a
  • Phenodi’r Cynghorydd Richard Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Adfer.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu dewis gan y grwpiau gwleidyddol yn seiliedig ar gryfder y gwahanol grwpiau a oedd â seddi ar y Cabinet.  Roedd Cadeiryddion yn cael eu dyrannu i grwpiau a oedd â lle ar y Cabinet i ddechrau, a byddai unrhyw hawl yn cael ei dalgrynnu i lawr i’r rhif cyfan agosaf.  Yna byddai’r Cadeiryddion eraill yn cael eu dyrannu i grwpiau nad oedd ganddynt sedd ar y Cabinet gan dalgrynnu i fyny i’r rhif cyfan agosaf.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts y canlynol ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin:

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu            Gr?p i Ddewis Cadeirydd

Cymunedau, Tai ac Asedau                Llafur (Cynghorydd Ian Dunbar)

Addysg, Ieuenctid a Diwylliant            Llafur (Cynghorydd David Healey)

Adnoddau Corfforaethol                       Ceidwadwyr

Yr Amgylchedd a’r Economi                Y Gynghrair Annibynnol

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd             Democratiaid Rhyddfrydol

 

O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Cadeiryddion y Pwyllgorau canlynol yn cael eu penodi (gan nodi unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd):

 

·             Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd – y Cynghorydd Ted Palmer

·             Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd – y Cynghorydd Neville Phillips

·             Pwyllgor Trwyddedu – y Cynghorydd Tony Sharps

·             Pwyllgor Cynllunio – y Cynghorydd David Wisinger

·             Pwyllgor Adfer – Y Cynghorydd Richard Jones

 

(b)       Bod y Pwyllgor Cwynion, y Pwyllgor Apeliadau Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu yn penodi eu Cadeiryddion eu hunain o blith eu haelodau; a

 

(c)        Bod y grwpiau canlynol yn cadeirio'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel yr amlinellwyd:

 

Cymunedau, Tai ac Asedau          Llafur (Cynghorydd Ian Dunbar)

Addysg, Ieuenctid a Diwylliant                  Llafur (Cynghorydd David Healey)

Adnoddau Corfforaethol                Ceidwadwyr

Yr Amgylchedd a’r Economi          Y Gynghrair Annibynnol

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd      Democratiaid Rhyddfrydol

 

(vi)      Cymeradwyo’r Cyfansoddiad

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y Cyfansoddiad yn nodi sut roedd y Cyngor yn gweithredu a’i fod yn cynnwys:

 

·         Rheolau a gweithdrefnau ar gyfer rheoli cyfarfodydd a busnes y Cyngor;

·         Dirprwyaethau i’r Cabinet (gan gynnwys dewis beth fyddai’n swyddogaeth weithredol a beth na fyddai’n swyddogaeth weithredol;

·         Dirprwyaethau i bwyllgorau a grwpiau ymgynghorol yn unol â’u cylch gorchwyl;

·         Dirprwyaethau i swyddogion; a

·         Chodau a phrotocolau i gefnogi safonau uchel o ran ymddygiad moesegol a llywodraethu

 

Roedd y Cyfansoddiad yn cael ei adolygu’n rheolaidd yn ystod pob tymor y Cyngor a byddai pob cod/protocol yn cael ei adolygu o leiaf unwaith fel rhan o adolygiad wedi’i drefnu.  Roedd newidiadau’n cael eu gwneud pan fo angen hefyd os oedd adolygiad wedi’i drefnu eisoes wedi’i gynnal neu os nad oedd wedi’i drefnu am beth amser.  Yn ystod y 12 mis nesaf, byddai’r Cyngor yn adolygu:

 

·         Rheolau Gweithdrefn ar gyfer cyfarfodydd i hwyluso cyfarfodydd hybrid;

·         Y Cod Ymddygiad yn unol ag adolygiad gan Lywodraeth Cymru;

·         Y Cod Ymddygiad Cynllunio fel a gytunwyd yn y cyfarfod ym mis Ebrill; a

·         Phrotocol ar Gyfraniad Aelodau mewn Wardiau Eraill.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y rheolau, gweithdrefnau, dirprwyaethau a chodau/protocolau yn y Cyfansoddiad yn cael eu cymeradwyo, gan gynnwys y newidiadau dros dro i reolau gweithdrefnau i ddarparu ar gyfer cyfarfodydd dros y we.

 

 

 

(vii)     Enwebu i Gyrff Mewnol

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y Cynllun Dirprwyo presennol yn darparu ar gyfer Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swyddogion haen gyntaf ac ail haen, yn cynnwys saith Aelod.  Nid oedd hwn yn bwyllgor sefydlog a byddai’n cael ei gynnull pan fo angen drwy geisio enwebiadau gan Arweinwyr Gr?p.   Yn y gorffennol, bu’n ddefnyddiol i Aelodau’r Pwyllgor fod yn wleidyddol gytbwys gan gynnwys yr Aelod Cabinet perthnasol.  Ym mis Ebrill, roedd y Cyngor wedi cytuno i gael Pwyllgor Penodiadau ychydig yn fwy ar gyfer recriwtio Prif Weithredwr newydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Christine Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod lluniad y Pwyllgor Penodiadau’n cael ei gymeradwyo.

 

(viii)    Y Pwyllgor Safonau

 

Eglurodd y Prif Swyddog gyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor Safonau a gofynnwyd i Aelodau ei nodi, ynghyd â phenodi Aelodau i Gyrff Allanol ar gyfer tymor cyfan y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, gan fod y Cynghorydd Paul Johnson yn Aelod o’r Cabinet bellach, byddai’r Cynghorydd Gladys Healey yn cymryd ei le ar y Pwyllgor Safonau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Christine Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor Safonau yn cael ei nodi, gan gynnwys y newid o ran aelodaeth, sef y bydd y Cynghorydd Gladys Healey yn cymryd lle’r Cynghorydd Paul Johnson.

 

(ix)      Penodiadau i Gyrff Allanol

 

Eglurodd y Prif Swyddog y bu i’r Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol yn 2017, benodi Aelodau i gyrff allanol ar gyfer tymor llawn y Cyngor.   Roedd hyn hefyd yn rhoi p?er i’r Prif Weithredwr, trwy ymgynghori ag Arweinwyr Grwpiau, wneud newidiadau i’r enwebiadau hynny yn ôl y gofyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Christine Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn nodi’r enwebiadau i Gyrff Allanol a benodwyd ar gyfer tymor cyfan y Cyngor a ph?er y Prif Weithredwr i amrywio’r enwebiadau hynny (trwy ymgynghori ag Arweinwyr Grwpiau).