Mater - penderfyniadau

Developing Children's Residential Care Home provision

21/12/2021 - Developing Children's Residential Care Home provision

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn gofal o ansawdd uchel fel eu bod yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu caru a’u cefnogi i ddatblygu sgiliau a chadernid i fyw bywyd llawn.

 

            Y prif nod yw cefnogi teuluoedd i ofalu am eu plant eu hunain, a’u rhwystro rhag dod yn blant sy’n derbyn gofal, os yw’n ddiogel gwneud hynny. Os fydd plant angen derbyn gofal, fe fydd y Cyngor eisiau sicrhau y gallwn ddarparu lleoliadau addas ac amserol. Serch hynny, roedd yna heriau sylweddol gyda digonolrwydd lleoliadau. Roedd yr awdurdod yn ddibynnol ar y sector annibynnol ar gyfer darpariaeth Gofal Preswyl Plant. Roedd y ddarpariaeth honno’n ddrud iawn ac yn aml mewn lleoliadau y tu allan i’r ardal, oedd yn golygu bod plant yn cael eu lleoli y tu allan i’w cymunedau ar gost ariannol gynyddol, ac anaddas i’r awdurdod lleol.

 

            Er mwyn sicrhau newid rhoddwyd ymrwymiad i ddatblygu darpariaeth Cartref Gofal Preswyl i blant a phobl ifanc, gyda manylion y blaenoriaethau ar gyfer y tair blwyddyn ariannol nesaf drwy gyflwyno’r prosiectau canlynol:

 

1.    Arosfa - i gefnogi nifer cynyddol o blant anabl a’u rhieni/gofalwyr.

2.    T? Nyth - darparu asesiad a chymorth therapiwtig arbenigol.

3.    Darpariaeth frys - i alluogi ymateb effeithiol i argyfwng.

4.    Cartrefi Grwpiau Bychan - i alluogi plant i fyw o fewn eu cymuned leol.

 

            Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bwysigrwydd bod datblygu Cartref Gofal Preswyl mewnol i blant yn cael ei ystyried fel dull system gyfan i gefnogi plant a phobl ifanc. Roedd yn cynnwys nifer o brosiectau ategol er mwyn:

           

            Lleihau’r nifer o blant sy’n derbyn gofal drwy:

 

·         Gryfhau darpariaeth trothwy gofal i gefnogi plant yn ddiogel ac yn briodol gartref a’u hatal rhag gorfod derbyn gofal yn y system ffurfiol.

·         Gweithio i ddirymu Gorchmynion Llys er mwyn sicrhau y gall plant sydd ddim angen bod mewn gofal, adael y system ofal yn ddiogel.

·         Llunio pecyn cefnogaeth ar gyfer trefniadau Gwarchodaeth Arbennig yn unol â threfniadau ariannol a chefnogaeth ar gyfer gofalwyr maeth

           

Cefnogi mwy o blant drwy faethu gyda’r awdurdod lleol gan:

 

·         Ddenu mwy o ofalwyr maeth cyffredinol drwy ymgyrch gan Faethu Cymru

·         Ehangu’r model Canolfan Mockingbird

 

Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad  a chefnogi datblygu Cartref Gofal Preswyl mewnol i blant a fyddai’n helpu i leihau cost lleoliadau y tu allan i'r sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Aelodau yn cefnogi’r symudiad i ddod yn ddarparwr uniongyrchol o Ofal Preswyl ar gyfer Plant; a

 

(b)       Bod y pedwar prosiect canlynol yn cael eu cytuno fel y prosiectau blaenoriaeth ar gyfer datblygiad mewnol:  Arosfa, T? Nyth, Darpariaeth Frys a Chartrefi Grwpiau Bychan.