Mater - penderfyniadau

Update on the Implementation of the Local Government & Elections Act 2021

03/08/2021 - Update on the Implementation of the Local Government & Elections Act

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i arfarnu’r Cyngor o weithrediad cyfredol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn dilyn yr eitem a dderbyniwyd ym mis Ionawr. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar weithredu’r tri Gorchymyn Cychwyn a gyflwynwyd erbyn mis Mai 2022.  Ers cyhoeddi’r adroddiad, cynhyrchwyd yr Ail Orchymyn Cychwyn sy’n ymwneud â threfn perfformiad a llywodraethu newydd ar gyfer prif Gynghorau a’r Trydydd Gorchymyn Cychwyn yn dod â darpariaethau ar bresenoldeb ar gyfer cyfarfodydd a dogfennau Awdurdodau Lleol i rym. Byddai newidiadau pellach fyddai’n deillio o’r ddeddfwriaeth yn cael eu hadrodd i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyngor Sir.

 

Cyflwynwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Carolyn Thomas.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad byr ar yr amserlen ar gyfer yr Adolygiad o Ffiniau Sirol.

 

Soniodd y Cynghorydd Richard Jones am y drafodaeth ym mis Ionawr ar agweddau eraill ar y ddeddfwriaeth a phenderfyniad y Cyngor i beidio â chefnogi cynigion ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel y maent ar hyn o bryd. Dywedodd y Prif Weithredwr fod consensws rhanbarthol wedi arwain at oedi mewn gweithrediad er mwyn caniatáu mwy o waith ar fel y byddai Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gweithio. Byddai diweddariad ar y sefyllfa yn cael ei hadrodd i gyfarfod yn y dyfodol.

 

Ar ôl cael ei gyflwyno a’i eilio, cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno i’r bleidlais a’i gario.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn nodi’r amserlen gweithrediad ac yn cydnabod y bydd adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno maes o law.