Mater - penderfyniadau

Delivery of aspects of the Capital Programme through a Measured Term Contract

21/12/2021 - Delivery of aspects of the Capital Programme through a Measured Term Contract

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn cynnig proses gaffael a fyddai’n cyflawni rhaglen o brosiectau (tua £1m y flwyddyn) e.e. gwaith Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, gwaith Asesiad Risgiau Tân, gwaith ar adeiladau ysgolion, gwaith ar eiddo corfforaethol, yn brydlon, o fewn y gyllideb ac o safon uchel.

 

            Y bwriad oedd cychwyn Contract Tymor Penodol (MTC) y Tribiwnlys Contractau ar y Cyd (JCT) ym mis Medi 2021 a bydd yn dod i ben ym mis Medi 2025 a rhagwelir gwariant o £4m yn ystod y cyfnod hwnnw.  Byddai’r gwaith unigol yn amrywio o £10k i £300k.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod y Tîm Ymgynghori ar Waith Cynnal a Chadw a Dylunio Eiddo wedi defnyddio contract MTS JCT wedi’i dendro ar sail pris / ansawdd gydag ethos partneriaeth / cydweithio er mwyn cyflawni’r gwaith ers 2010.  Roedd rhan o’r cais ansawdd yn cynnwys Buddion Cymunedol e.e. busnesau bach a chanolig, cymalau cyflenwi lleol a gwariant lleol.  Hyd yn hyn, roedd prosesau caffael wedi darparu tua £14m o brosiectau’n brydlon, o fewn y gyllideb ac o ansawdd uchel.

 

            Roedd MTC yn Gontract o Safon Diwydiant, yn benodol ar gyfer ei ddefnyddio wrth ddarparu nifer o brosiectau’n effeithlon, gan sicrhau bod cyfyngiadau amser a chostau’n cael eu cyflawni.  Petai’n cael ei gymeradwyo, byddai’n cael ei dendro ar GwerthwchiGymru yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi a chymeradwyo’r dull caffael, gan nodi bod y gofyniad yn cydymffurfio â Rheolau'r Weithdrefn Gontractau ac y byddai’n cefnogi cyflawni elfennau o’r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 i 2023/24.