Mater - penderfyniadau

Audit Wales - Audit Plan 2021

17/06/2021 - Audit Wales - Audit Plan 2021

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gynllun Archwilio gan Archwilio Cymru ar gyfer 2021 oedd yn nodi’r trefniadau a’r cyfrifoldebau ar gyfer gwaith archwilio arfaethedig i’r Cyngor yn ystod y flwyddyn gydag amserlenni, costau a’r timau archwilio oedd yn gyfrifol am gynnal y gwaith.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei gefnogaeth ar gyfer cynnwys y Cynllun Archwilio yr ymgynghorwyd â’r swyddogion yngl?n ag ef.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, cyfeiriodd Gwilym Bury o Archwilio Cymru at yr amserlen gychwynnol a roddwyd ar gyfer cwblhau’r gwaith archwilio ac y gallai’r sefyllfa argyfwng effeithio ar hynny o bosibl.  Roedd ffioedd archwilio ar gyfer gwaith archwilio cyfrifon a pherfformiad yn aros yr un fath â’r llynedd, a’r ffi arfaethedig ar gyfer gwaith ardystio grantiau yn ddibynnol ar faint yr archwilio oedd ei angen.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, dywedodd Gwilym Bury fod gwaith Archwilio Cymru ar wydnwch ariannol o dan Gynlllun Archwilio 2021/21 ar fin cychwyn ac yr adroddid ar y darganfyddiadau ar gyfer Sir y Fflint yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y cai’r adroddiadau eu rhannu gyda’r Pwyllgor hefyd a’r darganfyddiadau’n cael ei cynnwys yn y cynllunio ariannol. Dywedodd y byddai strategaeth ariannol y Cyngor yn aros yr un fath mwy neu lai er mwyn amddiffyn gwasanaethau a pharhau’r achos dros well Setliad gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Paul Johnson, rhoddodd Gwilym Bury gefndir yngl?n a’r angen i gynghorau gydymffurfio ag egwyddorion datblygu cynaliadwy fel y’u nodir mewn deddfwriaeth.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geoff Collett gefnogi’r argymhelliad ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi Cynllun Archwilio Cymru.