Mater - penderfyniadau

Hwb Digital Programme

24/09/2021 - Hwb Digital Programme

            Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd adroddiad a oedd yn rhoi manylion am sut y rhoddir rhaglen genedlaethol HWB ar waith yn ysgolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gynyddu cymarebau dyfeisiau i ddisgyblion.

 

            Yn ystod y pandemig, cyfathrebwyd â’r ysgolion yn rheolaidd a chynhaliwyd dadansoddiad o'r bylchau o ran y dyfeisiau a oedd ar gael.  Roedd hyn yn cynnig gwybodaeth am faint o ddyfeisiau a oedd gan yr ysgolion yn barod, a oedd yn galonogol iawn, ond roedd angen mwy er mwyn bodloni’r fformiwla y cytunwyd arni gyda’r ysgolion.  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod angen 6,000 yn fwy o ddyfeisiau yn dilyn y cyflenwad diwethaf a roddwyd i ysgolion yn Ionawr a Chwefror a chadarnhaodd hefyd y disgwylir archeb Chrome Books gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai a fydd yn diwallu rhai o’r anghenion yn y dadansoddiad o'r bylchau. 

 

Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan yr ysgolion am ddysgu cyfunol a dangoswyd dadansoddiad manwl yn adran 1.04 yr adroddiad.  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod dyfeisiau MiFi wedi eu caffael fel rhan o HWB a bod y rhain wedi cael eu rhoi i deuluoedd nad oedd â digon o gysylltiad Wi-Fi.  Cyfeiriodd at Sefydliad Neumark a gefnogodd bob un o Awdurdodau Gogledd Cymru i gaffael 110 o ddyfeisiau eraill a chafodd tua 80 neu 90 o ddyfeisiau eu rhoi’n uniongyrchol i ysgolion lle roedd eu hangen.  Bydd model cynaliadwy’n cael ei gyflwyno drwy’r fformiwla ariannu Ysgolion i sicrhau bod gan bob ysgol yr un offer gan y bydd angen i ysgolion nawr gynnal yr un lefel o ddyfeisiau, yn y gobaith y bydd gan yr holl ddysgwyr fwy o ddyfeisiau i wneud eu gwaith cartref. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr effaith ariannol ar ysgolion er mwyn diweddaru’r dyfeisiau’n barhaus a thalu am waith trwsio ayb a allai fod yn gostus yn y dyfodol.  Deallai fod hyn yn cael ei ystyried fel dyraniad ar gyfer cyllid yn y fformiwla cyllideb ysgolion a gofynnodd a yw'r ysgolion yn ymwybodol o’r goblygiadau o ran cost.  Wrth ymateb, dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei roi i Ysgolion gan y byddai dyfeisiau digidol nawr yn rhan allweddol o addysg disgyblion ac offer digidol yw’r adnodd newydd y mae angen i ysgolion gyllidebu ar ei gyfer.  Bydd hyn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Fforwm Cyllideb Ysgolion. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Smith am eglurder ar Rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA).  Wrth ymateb, dywedodd y Prif Swyddog mai hwn yw rhwydwaith y rhyngrwyd sy’n teithio drwy rwydwaith y cyngor i ysgolion er mwyn sicrhau bod y waliau tân yn cael eu cynnal, ynghyd â chyflymder y rhyngrwyd.  Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod hyn yn cael ei fonitro gan adran TG y Cyngor a bod gan fwyafrif yr ysgolion gapasiti digonol yn ystod y cyfnod clo.  Os byddai unrhyw broblemau gyda’r lled band a ddefnyddiwyd gan ysgolion i gyflwyno gwersi, cadarnhaodd y Prif Swyddog y gallai ysgolion uwchgyfeirio hyn at yr adran TG.

 

            Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) bod y term PSBA yn cyfeirio at Brosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus ar draws nifer o rwydweithiau’r sector cyhoeddus drwy Gymru gyfan lle gellid monitro defnydd.  Mae’r ffordd y cyflwynir addysg wedi newid dros y misoedd diwethaf gyda mwy o wersi’n cael eu cynnal dros y we mewn ysgolion ac o bell. Roedd newidiadau a wnaed i’r capasiti a data defnydd a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn galluogi ysgolion i flaengynllunio er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti ar gael yn ystod y cyfnodau prysur.  Bydd ysgolion a llywodraethwyr ysgolion yn ymwneud â’r cynlluniau strategol ar gyfer eu hysgol er mwyn diogelu costau ar gyfer cynnal ac adnewyddu dyfeisiau yn y dyfodol a nododd mor dda mae disgyblion wedi gwella’u sgiliau digidol a’r ffordd maen nhw wedi croesawu’r byd digidol.   

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llwyddiannau rhyfeddol a welwyd a thalodd deyrnged i’r Cyngor a’r tîm TG Corfforaethol am y gefnogaeth a roddwyd i Ysgolion.  Dywedodd ei fod yn ffyddiog fod lled band yn cael ei fonitro, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny sydd â chyflymder rhyngrwyd araf. 

 

            Gofynnodd Mrs Rebecca Stark pa fynediad a roddir i ddisgyblion bori’r we.  Ai dim ond gwefannau addysg y gellir eu gweld drwy eu dyfeisiau neu a ellir gweld gwefannau’r cyfryngau cymdeithasol ayb hefyd.  Wrth ymateb, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd mai HWB yw’r platfform ar gyfer dysgu digidol a rhoddir cyfeiriadau e-bost HWB i ddysgwyr ac athrawon.  Ychwanegodd y gallai disgyblion ddefnyddio dulliau diogel i bori’r we fel rhan o’u gwaith i chwilio am bethau ar-lein gyda’r platfformau google a ddarperir gan HWB.  Ychwanegodd y Prif Swyddog y gallai disgyblion gael mynediad at unrhyw beth ar y rhyngrwyd ond drwy ddefnyddio wal dân HWB a’r Cyngor, mae’n sicrhau eu bod wedi eu diogelu ac mae angen i riant arwyddo datganiad diogelu ar gyfer y dyfeisiau MiFi er mwyn sicrhau bod y person ifanc yn defnyddio’r ddyfais honno’n briodol. 

 

            Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Paul Cunningham ac Ian Smith. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi sut y rhoddir rhaglen genedlaethol HWB ar waith yn ysgolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gynyddu cymarebau dyfeisiau i ddisgyblion; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn ffyddiog nad oedd dysgwyr Sir y Fflint dan unrhyw anfantais yn ddigidol yn ystod y cyfnod clo oherwydd camau gweithredu effeithiol gan yr ysgolion a Gwasanaethau Addysg a TG y Cyngor.