Mater - penderfyniadau

End of Year Performance Monitoring Report

26/07/2021 - End of Year Performance Monitoring Report

Cyflwynodd y Prif Swyddogion yr adroddiad monitro diwedd blwyddyn i adolygu cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn yn erbyn eu priod flaenoriaethau a nodir ym Mesurau Adrodd y Cyngor 2020/21 o dan gylch gwaith y Pwyllgor. Adroddwyd bod 67% o'r dangosyddion perfformiad wedi diwallu neu ragori ar eu targedau.

 

O fewn y Gwasanaethau Stryd a Chludiant, roedd dau ddangosydd â statws coch ar gyfer perfformiad cyfredol yn erbyn y targed. O ran datblygiad parhaus y Bartneriaeth Bysiau o Safon, byddai canlyniadau adolygiad rhwydwaith gan Drafnidiaeth Cymru yn cael eu rhannu gyda'r Pwyllgor pan fyddant ar gael. O ran atgyweiriadau gan gontractwyr cyfleustodau, er gwaethaf gostyngiad mewn arolygiadau ar ôl cwblhau yn ystod y cyfnod, roedd y nifer a gynhaliwyd yn uwch na'r gofyniad statudol.

 

Ar gyfer Cynllunio, yr Economi a'r Amgylchedd, roedd effaith y sefyllfa argyfwng ar berfformiad yn amlwg, ond roedd rhai canlyniadau ychydig yn is na'r targed. Roedd nifer y ceisiadau cynllunio a benderfynwyd arnynt yn gwella wrth i gynnydd da gael ei wneud ar yr ôl-groniad o waith a oedd wedi datblygu ar ddechrau'r sefyllfa argyfwng.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn yn cael ei nodi.