Mater - penderfyniadau

Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan

01/11/2021 - Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i Gynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) a’r Gyllideb HRA ar gyfer 2021/22.

 

Roedd hi’n ofynnol i’r Cyfrif Refeniw Tai lunio Cynllun Busnes 30 blynedd sy’n amlinellu’r cyd-destun strategol ar gyfer cyllideb tai 2021/22 ac roedd yn cynnwys:

 

  • Sicrhau bod fforddiadwyedd i’n tenantiaid yn greiddiol i’n hystyriaethau;
  • Sicrhau bod costau ein gwasanaethau’n effeithlon ac yn cynnig gwerth am arian;
  • Sicrhau bod strategaeth rheoli'r trysorlys yn parhau i fodloni gofynion benthyca newydd a pharhaus y Cyfrif Refeniw Tai;
  • Pennu cyllideb fantoledig gydag o leiaf 4% o refeniw dros ben dros wariant;
  • Manteisio i’r eithaf ar arbedion effeithlonrwydd refeniw i leihau benthyca;
  • Parhau i ddarparu Tai Cyngor wedi eu hadeiladu o’r newydd;
  • Cynnal yr ysgogiad i sicrhau bod cartrefi’n effeithlon o ran ynni; a
  • Darparu cyfalaf digonol i gynnal lefelau Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

Mae Polisi Rhent Llywodraeth Cymru wedi ei osod am 5 mlynedd yn dechrau yn 2020/21 ac mae’n darparu ar gyfer cynnydd blynyddol o CPI+1%. Argymhellwyd felly y dylid rhoi cynnydd cyffredinol o 0.68% i bob tenant ac, yn ychwanegol, rhoi codiad pontio o £2 i denantiaid sy’n talu o leiaf £3 o dan y targed rhent.

 

Cynigiwyd y dylid gweld cynnydd o £0.20 yr wythnos mewn rhenti garej, sy’n golygu y byddai rhent wythnosol garej yn £10.03 a byddai rhent plot garej yn cynyddu £0.03 yr wythnos, sy’n golygu y byddai rhent plot yn £1.63 yr wythnos.

 

O ran taliadau gwasanaeth, cynigiwyd y dylid gohirio’r cynnydd terfynol a rhewi taliadau gwasanaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf. Nod y dull gweithredu hwn fyddai gwarchod tenantiaid sydd o bosibl yn wynebu problemau ariannol o ganlyniad i'r pandemig, yn ogystal ag ymgymryd â mwy o waith i sicrhau bod y gwasanaethau hynny y telir taliadau gwasanaethau amdanynt ar hyn o bryd yn safonol ac yn cynnig gwerth am arian.

 

Yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, byddai'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) yn darparu cyfanswm o 71 o gartrefi newydd yn y Cyfrif Refeniw Tai a pharhau â'r gwaith i ddarparu Safon Ansawdd Tai Cymru a fyddai’n canolbwyntio’n bennaf ar wneud gwaith allanol ar doeau, ffenestri, drysau a gwaith amgylcheddol, a gwella parcio i denantiaid. Felly byddai’r rhaglenni adeiladau newydd ac adnewyddu yn gweld bron i £35m o fuddsoddiad yn y cartrefi presennol a chartrefi newydd.

 

Mae’r Gwasanaeth Tai yn parhau i berfformio’n dda ar ôl blwyddyn heriol dros ben a diolchodd y Cynghorydd Hughes i’r gweithlu am eu gwaith caled bob amser ac i’r tenantiaid am eu cefnogaeth barhaus.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Ffederasiwn Tenantiaid ar 8 Chwefror a chafodd ei gefnogi’n llawn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2021/22 fel y'i hamlinellir yn atodiadau’r adroddiad;

 

 (b)      Cymeradwyo’r cynnydd mewn rhent hyd at 0.69% (yn ogystal â hyd at £2);

 

 (c)       Cymeradwyo’r cynnydd o £0.20 yr wythnos ar gyfer rhent garej gyda chynnydd o £0.03 yr wythnos ar gyfer plot garej.

 

 (ch)    Cymeradwyo y dylid rhewi cynnydd yn y Tâl Gwasanaeth am flwyddyn; a

 

 (d)      Chymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf HRA 2021/22 arfaethedig.