Mater - penderfyniadau

Homelessness

11/06/2021 - Homelessness Update Report

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal adroddiad er mwyn darparu diweddariad ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud i atal digartrefedd ledled Sir y Fflint.  Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at effaith pandemig Covid.  Dywedodd bod yna dri cham i’r ymateb i ddigartrefedd a bod y Cyngor ar hyn o bryd ar gam 3, sef y symud i’r ‘Normal Newydd’ a dywedodd bod yna rai agweddau cadarnhaol a heriau o’n blaenau.  Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth gyflwyniad oedd yn cynnwys y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Cam 1 Ymateb

·         Cam 2 Cynllunio

·         Cam 2 Arian Cyfalaf

·         Cam 3 Y Normal Newydd

·         Galw am wasanaethau

·         Ymateb y tu allan i oriau

·         Tai mewn achos brys

·         Rhain sy’n cysgu ar y strydoedd

·         Cefnogaeth tai

·         Cofrestr tai

·         Yr Holl dai cymdeithasol a osodir

·         50% enwebiadau Covid

·         Teithiau pobl

·         Hyb digartrefedd

·         Gwasanaethau cymorth newydd

·         Edrych i’r dyfodol                                                                                                   

 

Diolchodd y cadeirydd i’r Rheolwr Gwasanaeth am ei adroddiad a’i gyflwyniad llawn gwybodaeth a siaradodd yn gefnogol i’r ymrwymiad brwdfrydig a llwyddiant y gwaith sydd wedi cael ei wneud er mwyn mynd i’r afael â phroblem digartrefedd yn y Sir.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Rush cytunodd y rheolwr Gwasanaeth i rannu’r rhif ffôn digartrefedd y tu allan i oriau i Aelodau yn dilyn cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oedd yna gynlluniau i ymestyn cyfleusterau a thai i bobl ddigartref i ardaloedd eraill yn y Sir yn ychwanegol i’r ardaloedd yr adroddwyd arnynt eisoes.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod angen cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol a llety rhent dros dro.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y strategaeth hirdymor ac at waith ar y rhaglen SHARP er mwyn adeiladu capasiti a hefyd er mwyn lleihau rhestrau aros am dai.    

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Ron Davies ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

(A)  Nodi’r adroddiad; a

 

(B)  Bod y gwaith sydd yn cael ei wneud gan y gwasanaeth yn parhau i gael ei gefnogi.