Mater - penderfyniadau
Welsh Government consultation on the proposed Housing Revenue Manual
04/03/2021 - Welsh Government consultation on the proposed Housing Revenue Manual
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad oedd yn gofyn am adborth ar y Llawlyfr Cyfrif Refeniw Tai drafft. Datblygwyd y llawlyfr gan Lywodraeth Cymru i roi arweiniad i gynghorau a sicrhau eglurder a chysondeb o ran yr opsiynau wrth weithredu’r Cyfrif Refeniw Tai. Byddai adborth y Pwyllgor yn helpu i lywio ymateb ffurfiol y Cyngor i'r ymgynghoriad.
Cytunwyd fod Aelodau'n cyfeirio unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn uniongyrchol at y Prif Swyddog i fod yn rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Gay a’r Cynghorydd Lloyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi'r adroddiad; a
(b) Bod Aelodau'r Pwyllgor yn anfon sylwadau'n uniongyrchol at y Prif Swyddog (Tai ac Asedau), er mwyn llywio ymateb y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.