Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
11/08/2021 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried, gan gynnwys cynigion ers yr adroddiad diwethaf.
Cyfeiriodd Sally Ellis at rai eitemau yn yr adroddiad Tracio Camau Gweithredu a oedd angen eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y dylid cynnwys eitemau yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol lle bo hynny’n bosibl, gan nodi bod rhai ohonyn nhw’n barhaus.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Joe Johnson a Martin White.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac
(b) Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.